Mwy o Newyddion
'Cymru ar y dibyn' - Gallai argyfwng digartrefedd daro erbyn y Nadolig
Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio fod ystadegau a ryddhawyd ganddynt yn dangos fod effeithiau cynnar y dreth llofftydd eisoes yn dod i’r amlwg.
Dengys ffigyrau swyddogol ar nifer yr hawliadau a gorchmynion Meddiant Landlord a gyhoeddwyd yn y 3 mis o Ebrill i Fehefin 2013, yn dilyn cyflwyno’r dreth llofftydd,? fod nifer yr hawliadau wedi cynyddu o 11% o gymharu â’r un cyfnod llynedd, a bod nifer y gorchmynion meddiant wedi cynyddu o 16%. Yn y sector tai cymdeithasol yr oedd y rhan fwyaf o’r hawliadau a’r gorchmynion hyn – sef y sector y mae’r dreth llofftydd yn effeithio arno.
Dengys yr ystadegau hefyd gynnydd o 6.5% yn nifer y gwysion troi allan yn y sector rhentu preifat, wrth i deuluoedd yng Nghymru ymdopi gyda chostau byw a newidiadau eraill i’r system fudd-daliadau a gyflwynwyd ym mis Ebrill.
Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio, wrth i deuluoedd wynebu mwy o gostau gwresogi ac ynni yn y gaeaf, ac iddynt ddefnyddio eu cynilion, y gallai’r dreth llofftydd wneud difrod enbyd i deuluoedd erbyn y Nadolig.
Meddai llefarydd Plaid Cymru ar Dai ac Adfywio, Jocelyn Davies: "Dyw’n rhoi dim pleser i mi fy mod wedi ‘mhrofi’n gywir y tro hwn. Fe wnaethom rybuddio llywodraeth y DG y byddai’r newidiadau hyn i’r system fudd-daliadau yn arwain at droi mwy o bobl allan o’u tai ac chynnydd mewn digartrefedd pan grybwyllwyd hwy gyntaf 3 blynedd yn ôl.
"Tra bod nifer y rhai sy’n cael eu troi allan eisoes wedi codi, rwy’n paratoi am y dinistr sydd i ddod. Erbyn yr hydref, bydd teuluoedd yn gorfod wynebu biliau gwres ac ynni uwch, a bydd llawer wedi defnyddio eu cynilion dros dro i dalu’r dreth llofftydd. Ar ben hyn, gwyddom na fydd fawr o gefnogaeth gan yr awdurdodau lleol oherwydd cynnydd enfawr yn y galw am Lwfans Tai Dewisol.
"Gydag adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Arian yr wythnos diwethaf yn dweud fod nifer yr oedolion sy’n cael trafferth talu biliau wedi cynyddu’n sylweddol, ac un o bob pump o’r boblogaeth yn dweud eu bod wedi colli incwm yn sylweddol, mae’n amlwg fod Cymru yn wynebu Nadolig arall o galedi. Rwy’n bryderus iawn y byddwn, erbyn y Nadolig, mewn argyfwng. Pa mor ddrwg mae’n rhaid i bethau fynd cyn i lywodraeth San Steffan sylweddoli’r anrhaith mae eu polisiau yn achosi ymysg y tlotaf mewn cymdeithas?
"Mae Plaid Cymru eisiau cefnogi teuluoedd Cymru, nid eu herlid. Oherwydd hynny, rydym am weld awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn eu gallu i liniaru effeithiau’r polisi, trwy fabwysiadu polisi o ddim troi allan o ganlyniad i’r dreth llofftydd. Rydym hefyd yn edrych ar lawer o syniadau i hybu lles ariannol fel rhan o Fesur Aelod Preifat Bethan Jenkins ar addysg a chynhwysiant ariannol, ac yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn barod i weithio gyda ni i amddiffyn pobl Cymru rhag y toriadau llym ddaw o San Steffan."