Mwy o Newyddion


Protest gwrth-niwclear
Mae grŵp ymgyrchu gwrth-niwclear yn bwriadu protestio ar un o'r pontydd rhwng Môn a'r tir mawr yr wythnos nesaf – a hynny er mwyn dangos pa fath o anrhefn allai gael ei achosi gan ddamwain yn atomfa Y Wylfa.
Union flwyddyn ers iddyn nhw gynnal eu protest ddiwethaf ger Pont y Borth yn ystod awr traffig gwaith 8-9 o'r gloch y bore, fe fydd yr ymgyrchwyr yn gwneud yr un peth ddydd Mercher nesaf, Mawrth 30.
Eleni, maen nhw'n ceisio tynnu sylw at y ffaith bod adweithyddion Y Wylfa ym Môn yr un oed â'r adweithyddion sydd wedi bod yn llosgi ac yn gollwng ymbelydredd i'r awyr yn Fukushima, Japan, yn dilyn y daeargryn yn y wlad.
“Petai damwain niwclear ddifrifol yn digwydd yng ngorsaf niwclear y Wylfa gan orfodi gwagio’r ynys, dwy bont yn unig fyddai gyda ni i ddianc drostyn nhw i’r tir mawr,” meddai Dylan Morgan ar ran PAWB.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA