Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Awst 2013

Howzat Co! Diwrnod o hwyl er budd elusen cancr

Cynhelir diwrnod o hwyl gyda naws chwaraeon iddo yng Nghaernarfon gyda’r gobaith o godi £10,000 er budd elusen cancr.

Digwyddiad cyntaf yr elusen Gafael Llaw fydd diwrnod “Howzat Co”, fydd yn cael ei gynnal ddydd Sul, 25 Awst yng Nghlwb Rygbi Caernarfon o 12pm ymlaen. Mae gwledd o weithgareddau wedi eu trefnu, gyda rhywbeth at ddant pawb.

Drwy’r prynhawn bydd cystadleuaeth griced gyffrous gyda 10 o dimau yn cynrychioli cyflogwyr lleol yn brwydro am le yn y ffeinal fawreddog, sydd i’w gynnal am 6pm.

Bydd llu o weithgareddau chwaraeon ac adloniant ar gyfer y teulu i gyd yn ystod y dydd hefyd, ynghyd â cherddoriaeth fyw.

Am 7.30pm cynhelir ocsiwn fawr yn y Clwb Rygbi dan ofal Dafydd Hardy. Rhai o’r prif wobrau fydd:

- Crys rygbi tîm y Llewod Sam Warburton, wedi ei arwyddo gan y capten ei hun
- Crys tîm seiclo Sky o’r Tour de France
- Crysau chwaraeon arbennig eraill
- Noson ramatus yng Ngwesty Portmeirion
- Noson ramatus yng Ngwesty Deganwy Quay
- Llu o wobrau eraill ac ambell i sypreis

Ar ôl yr ocsiwn, bydd disco yn y clwb.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, cadeirydd Gafael Llaw ac un o drefnwyr y diwrnod: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr ac yn gofyn i bobl ein cefnogi. Mae’n gaddo tywydd braf ar gyfer dydd Sul gwyl y banc, felly galwch heibio i fwynhau diwrnod llawn hwyl.

“Sefydlwyd elusen Gafael Llaw er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc yr ardal sy’n dioddef oherwydd cancr. Rydw i’n gwybod fod hwn yn achos sy’n cyffwrdd llawer gormod o fywydau a dyna pam rydan ni’n gobeithio am gefnogaeth frwd. Mae’r arian sy'n cael ei godi drwy weithgareddau Gafael Llaw yn cefnogi Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd, Clic Sargent ac Ysbyty Alder Hey.

“Noddir y diwrnod gan Welcome Furniture a Travis Perkins. Rhoddir cefnogaeth yn ogystal gan gangen lleol Santander. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth.”

Bydd Gafael Llaw yn trefnu mwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol, felly gwyliwch allan am fanylion pellach.

Am fwy o wybodaeth am y diwrnod, ac i gyfrannu at Gafael Llaw, cysylltwch â Iwan Trefor Jones ar 07775332967

Rhannu |