Mwy o Newyddion
Wythnos ar ôl i chi roi sylwadau ar gynigion i wella’r mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg
Gofynnir i’r cyhoedd ddweud eu dweud am gynigion sydd wedi’u llunio i sicrhau bod mwy o blant yn gallu cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg .
Bydd y rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, ei lunio a’i gyhoeddi. Bydd y Cynllun hwnnw wedyn yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru iddynt gael ei gymeradwyo.
Bydd y rhain yn nodi sut y maent yn cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn ymateb i’r galw gan rieni, yn ogystal â’u targedau i wella safon addysg cyfrwng Cymraeg ac addysgu Cymraeg yn eu hardaloedd.
Bydd y cynlluniau’n para am 3 blynedd ac yn cael eu hadolygu bob blwyddyn.
Mae wythnos ar ôl cyn bod yr ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft yn dod i ben ar 23 Awst. Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi annog y cyhoedd, awdurdodau lleol a phob rhanddeiliad i ddweud eu dweud.
Gofynnir i bobl ystyried nifer o faterion, gan gynnwys:
- yr amgylchiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg
- ffurf a chynnwys y cynllun
- hyd y cynllun
- y rhestr o’r ymgyngoreion
Cyflwynodd awdurdodau lleol eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru yn wirfoddol ym mis Rhagfyr 2011. Ym mis Ionawr 2013, pasiwyd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) sy’n gwneud hyn yn gadarnach wrth roi sail statudol i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau: "Pobl ifanc yw dyfodol y Gymraeg, does dim dwywaith am hynny. Felly mae’n hanfodol bod rhieni a phlant yn gallu cael at addysg cyfrwng Cymraeg sydd o ansawdd gyson uchel.
"Mae awdurdodau lleol eisoes wedi cyhoeddi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn wirfoddol. Mae hyn yn caniatáu iddynt baratoi ar gyfer gofynion y rheoliadau newydd. Bydd y cynigion hyn yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn dangos eu bod yn mesur y galw ac yn dangos sut y bwriedir bodloni’r galw hwnnw, yn unol â thargedau ein Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg.
"Rwy’n annog pawb sydd â buddiant, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd, ysgolion ac awdurdodau lleol i ddweud ei dweud am y cynigion pwysig hyn."
Gallwch roi sylwadau trwy e-bostio addysg.gymraeg@cymru.gsi.gov.uk, neu gallwch eu cyflwyno drwy’r post: Yr Uned Cymraeg mewn Addysg, Llywodraeth Cymru, Bedwas, Caerffili, CF83 8WT.