Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Awst 2013

Sicrhau ansawdd yn yr Ardd

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi sicrhau marciau llawn mewn prawf o ansawdd eu hatyniadau ar gyfer ymwelwyr.

Barnwyd bod yr ardd yn ‘llawn haeddu’r’ dyfarniad o ‘Atyniad i Ymwelwyr o Ansawdd Sicr’, ac fe’i chanmolwyd am ei chroeso cynnes, staff cyfeillgar, a’i lleoliadau ardderchog ar gyfer bwyd a diod.

Gwnaed yr arolwg ar gyfer y Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Denu Ymwelwyr (GSADY) ar ran Llywodraeth Cymru.  Roedd y beirniad wedi cael argraff dda iawn o’r Tŷ Gwydr Mawr, yr Ardd Ddeu-Fur, a’r ardd flodau gwyllt a ddisgrifiodd yn “gyforiog o liwiau”.

Canmolodd hefyd nifer o nodweddion eraill yn yr Ardd, gan gynnwys y Siop Roddion, y bwyty, y wefan, y maes parcio, y Neuadd Apothecari, yr arddanfosfa ffwng ‘O Deyrnas Arall’, a’r anogaeth i ail-gylchu’n gyson ar draws y safle.

Mae’r adroddiad hefyd yn canu clodydd y cawl cartref betys ac afalau sydd ar gael ym Mwyty’r Tymhorau, a’i disgrifio’n “flasus dros ben; yn llawn lliw a blas”.

Meddai Cyfarwyddwraig yr Ardd, Dr Rosie Plummer:  “Ry’n ni’n falch dros ben i dderbyn cadarnhad swyddogol bod yr Ardd yn parhau i gyrraedd y safon uchel sydd ei hangen i haeddu’r cydnabyddiaeth hwn.”

Ychwanegodd Dr Plummer:  “Mae’n galonogol dros ben hefyd i weld faint mor aml mae’r geiriau ‘cyfeillgar’, ‘o gymorth’ a ‘rhagorol’ yn ymddangos yn yr asesiad o’r Ardd a’i staff.”

Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar agor o 10yb hyd 6yh (mynediad diwethaf am 5yh).  Am fwy o wybodaeth, ewch i www.gardenofwales.org.uk , galwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

 

Rhannu |