Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Awst 2013

Lansio Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan

Mae Caryl Parry Jones, y gantores a’r cyflwynydd radio a theledu, wedi lansio ddigwyddiad Bore Coffi Mwya’r Byd Cymorth Canser Macmillan yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Torrodd Caryl deisen Bore Coffi Mwya’r Byd a wnaed yn arbennig a gweini te a choffi i’r rhai a fynychodd y lansio.

Llwyddodd Bore Coffi Mwya’r Byd, sydd yn ei 23ain blwyddyn, i godi £15m anhygoel i Macmillan y llynedd yn unig.

Mae’r elusen yn apelio am ragor o bobl nag erioed i gynnal eu digwyddiad Bore Coffi Mwya’r Byd eu hunain i godi arian allweddol i roi cymorth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser.

Meddai Caryl Parry Jones, sy’n dod o Ffynnongroyw, ger y Rhyl yn wreiddiol: “Dwi’n meddwl bod Bore Coffi Mwya’r Byd yn wych oherwydd ei fod yn dod â phobl at ei gilydd ac rhoi cyfle iddyn nhw siarad, sy’n ffantastig.

“Yn ddiweddar dwi wedi colli rhai ffrindiau i ganser ac mae aelodau’r teulu a ffrindiau wedi colli teulu hefyd.

“Y cymorth gawson nhw gan Macmillan yw’r cymorth maen nhw’n sôn amdano’n fwy na dim.

“Yn aml, fel teulu a ffrindiau, rydyn ni’n poeni cymaint am y claf fel ein bod ni’n anghofio am y gofalwr boed yn ŵr, gwraig, brawd neu chwaer, a’r pwysau enfawr sydd arnyn nhw gydol y salwch i gyd.”

Mae Caryl yn dweud ei bod hi’n hoffi’r digwyddiad gan ei fod yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd.

“Dwi’n meddwl bod Bore Coffi Mwya’r Byd yn syniad ardderchog oherwydd bod pawb yn hoffi te, coffi a theisen ac mae’n dod â phobl at ei gilydd,” meddai.

“Gall pobl ddod at ei gilydd i godi arian i Macmillan, codi ymwybyddiaeth a dathlu gwaith Macmillan.”

Meddai Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: “Hoffai Macmillan yng Nghymru ddiolch yn enfawr i Caryl Parry Jones am gytuno i lansio Bore Coffi Mwya’r Byd yn ein stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Gan fod disgwyl i nifer y bobl sy’n byw gyda chanser yng Nghymru gyrraedd 240,000 erbyn 2030, mae Cymorth Canser Macmillan eisiau sicrhau na fydd neb yn wynebu canser ar ei ben ei hun yn y dyfodol.

“Bu’r arian a gododd digwyddiadau fel Bore Coffi Mwya’r Byd yn helpu Macmillan i wario £3.2m ar ei wasanaethau yng Nghymru’r llynedd yn unig, gan gynnwys ariannu ein nyrsys a rhoi £545,000 mewn grantiau i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser.”

I gofrestru i gynnal Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan, ffoniwch 0300 1000 200 neu ewch i www.macmillan.org.uk/coffee.

Rhannu |