Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Awst 2013

Cyhoeddi Gŵyl FfotoAber 2013

Mae FfotoAber, yr ŵyl ffotograffiaeth flynyddol, sydd bellach yn ei thrydedd blwyddyn, wedi cyhoeddi manylion digwyddiadau 2013.

Mae’r ffotomarathon a’r gystadleuaeth ysgolion yn dychwelyd i'r dref yn nhymor yr Hydref 2013, ac mae'r wybodaeth ddiweddaraf i’w weld ar www.ffotoaber.com

Mae Deian Creunant o FfotoAber yn egluro beth sydd ar y gweill: "Bu’r ddwy flynedd gyntaf o FfotoAber yn llwyddiannus iawn gyda dros 180 o geisiadau yn y gystadleuaeth ysgolion llynedd a chymerodd dros 60 o gystadleuwyr ran yn y ffotomarathon, i gyd yn cymryd chwe llun ar chwe thema mewn chwe awr.

"Roedd yr adborth yn hynod o gadarnhaol ac rydym yn gobeithio datblygu ymhellach yn y drydedd flwyddyn.”

Bydd Ffotomarathon 2013, a gynhelir mewn partneriaeth â Chlwb Busnes Aberystwyth yn cael ei gynnal ar 26 Hydref yng nghanolfan Morlan, Aberystwyth.

Mae'n gystadleuaeth sy'n herio cystadleuwyr drwy annog creadigrwydd a meddwl cyflym.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd chwe llun ar chwe thema, mewn chwe awr, y cyfan sydd ei angen arnoch yw camera digidol neu ffôn symudol.

Ewch i'r wefan am fwy o fanylion - www.ffotoaber.com a bydd y cofrestru yn agor ganol Medi.

Mae Harry James, Cadeirydd Clwb Busnes Aberystwyth ac un o feirniaid llynedd eisoes yn edrych ymlaen at y digwyddiad: "Mae Clwb Busnes Aberystwyth yn ymfalchïo yn ein cefnogaeth i weithgareddau arloesol yn ac o amgylch y dref.

"Wedi ymwneud â'r ffotomarathon am y ddwy flynedd ddiwethaf a gweld drosof fy hun y cyffro a’r bywiogrwydd gaiff ei greu rwyf unwaith eto yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld cynnyrch eleni."

Cefnogwr allweddol arall unwaith eto eleni yw Sprint @ Cambrian Printers a fydd yn sicrhau fod yr holl geisiadau yn cael ei argraffu mewn pryd ar gyfer y seremoni wobrwyo ar y nos Sul a bydd pob cystadleuydd unwaith eto yn derbyn calendr desg sy'n cynnwys eu cyfansoddiadau ffotograffig unigol.

Mae'r gystadleuaeth ar gyfer ysgolion yng nghyffiniau Aberystwyth, a gynhelir mewn partneriaeth â Chlwb Rotari Aberystwyth eisoes wedi cael ei lansio.

Mae thema 2013, 'Rhyfeddodau’, wedi ei ddosbarthu i ysgolion i sicrhau bod myfyrwyr yn cael digon o gyfle i ymarfer eu sgiliau ffotograffig dros yr haf.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddiwedd mis Hydref gydag arddangosfa o'r delweddau buddugol i'w gweld yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth.

Ychwanegodd Catrin MS Davies, un arall o drefnwyr FfotoAber: "Mae ffotograffiaeth yn gelfyddyd sy'n hygyrch i bawb, hen ac ifanc, proffesiynol ac amatur.

"Drwy gyfrwng FfotoAber, rydym yn anelu at drefnu digwyddiadau sy'n cynnwys pawb. Yn 2012 gwelsom blant ac oedolion, o bell ac agos yn cymryd rhan, ac mae hyn yn obaith eto eleni. Mae'n gyfle i bawb gyfrannu lluniau neu i fod mewn lluniau. "

Am fwy o wybodaeth am yr wyl, ewch i www.ffotoaber.com. Gallwch hefyd ddilyn ar Facebook ac ar Twitter @FfotoAber.
 

Llun: Llun un o'r enillwyr Anna Irving o dan y thema "Cylch"

Rhannu |