Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Awst 2013

Buddugoliaeth arwyddion dwyieithog

Mae cynhorwyr Plaid Cymru wedi cael addewid gan Marks & Spencer y bydd y cwmni’n darparu arwyddion dwyieithog yn ei siop yng Nghaerfyrddin – a phob siop arall trwy Gymru.

Yn sgil cwynion gan gwsmeriaid, pryderon staff a phrotestio gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith am yr arwyddion uniaith Saesneg yng Nghaerfyrddin, fe ysgrifennodd y chwe chynghorydd sir sy’n cynrychioli’r dref at Marc Bolland, Brif Weithredwr y cwmni, yn ei annog i ddarparu arwyddion dwyieithog.  

“Fe wnaethom dynnu sylw Mr Bolland at y ffaith bod tua hanner pobl yr ardal yn byw eu bywydau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, a’i bod hi’n arferol i gwmnïau masnachol gydnabod hynny trwy godi arwyddion dwyieithog,” meddai’r Cynghorydd Alun Lenny, oedd wedi llunio’r llythyr ar ran y chwech.

“Fe wnaethom hefyd ei rybuddio bod perygl i’r sefyllfa suro’r berthynas dda sydd wedi bodoli rhwng y cwmni a’r gymuned leol ers tua 30 mlynedd.”

Mewn ymateb i lythyr y cynghorwyr, mae M&S wedi cyfaddef mai trwy gamgymeriad y codwyd yr arwyddion Saesneg, a bod y cwmni’n anelu at ddarparu arwyddion dwyieithog ymhob cangen trwy Gymru.

“Mae hwn yn flaenoriaeth gennym, a gallaf eich sicrhau y bydd yr arwyddion yn ddwyieithog yn y dyfodol agos,” meddai’r ateb dderbyniwyd trwy lythyr gan y cwmni ddydd Mercher.

“Rydym yn naturiol yn croesawu addewid y cwmni yn fawr iawn,” meddai Alun Lenny, “ond mae’n drueni bod y fath sefyllfa wedi codi o gwbl. Mae’n dangos, eto fyth, bod gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg yn frwydr barhaus.”

Llun: Alun Lenny

Rhannu |