Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Mawrth 2011
Karen Owen

Gofalu nad oes gormod o fyfyrwyr

FE fydd yn rhaid i’r corff sy’n ariannu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ofalu nad oes gormod o fyfyrwyr yn cael eu recriwtio gan y colegau – neu mi fydd y corff ei hun yn cael ei gosbi gan y Gweinidog Addysg ym Mae Caerdydd.

Yn ei lythyr blynyddol at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae Leighton Andrews, Gweinidog Addysg, Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn gofyn am “gydweithrediad llawn” wrth i’r Cyngor dderbyn mwy o gyfrifoldebau a gorfod gweithio i amserlen dynn iawn.

Y Cyngor fydd yn gyfrifol, o’r mis nesaf ymlaen, am baratoi a gweinyddu’r cynllun sy’n golygu nad oes yn rhaid i’r un myfyriwr o Gymru dalu ffïoedd dysgu. Ac er bod y Gweinidog yn cydnabod y “cam mawr newydd” yn hanes y Cyngor Cyllido, mae’n dweud mai er lles addysg yng Nghymru y mae’n gorfod digwydd.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |