Mwy o Newyddion
Myfyrwyr Cymru yn dathlu canlyniadau safon uwch a Bagloriaeth Cymru
Heddiw, cafodd myfyrwyr sy’n dathlu eu llwyddiant yn yr arholiadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru eu canmol gan Huw Lewis, y Gweinidog Addysg.
Ymunodd Huw Lewis â myfyrwyr a oedd yn casglu eu canlyniadau yng Ngholeg Catholig Dewi Sant yng Nghaerdydd a dywedodd: “Mae’r dysgwyr yma yng Ngholeg Dewi Sant, yn ogystal â phob dysgwr arall ar draws Cymru, yn haeddu dathlu eu canlyniadau heddiw.
“Maen nhw wedi gweithio’n hynod o galed ac maen nhw’n haeddu cael eu canmol am yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni. Dylid cydnabod a chanmol y rhieni a’r athrawon hefyd am y gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi i’n dysgwyr ar hyd y daith.
“Dyma set da o ganlyniadau. Mae’r gyfradd llwyddo yn yr arholiadau Safon Uwch yn parhau’n uchel yng Nghymru ac rydyn ni’n gweld cynnydd cyson mewn llawer o wahanol bynciau. Mae cyfran gynyddol o’r graddau a ddyfarnwyd yn raddau A* - C.”
Mae canlyniadau Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol myfyrwyr Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod:
· 97.6% o’r cynigion Safon Uwch wedi llwyddo
· 75.2% o’r cynigion Safon Uwch wedi llwyddo gan ennill gradd A*- C
· 86.2% o’r cynigion Safon Uwch Gyfrannol wedi llwyddo.
Mae nifer yr ymgeiswyr yn y pynciau STEM (sef Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), gan gynnwys Cemeg, Mathemateg, Mathemateg Bellach a Ffiseg hefyd wedi cynyddu o 7,795 yn 2012 i 7,980 yn 2013.
Dywedodd y Gweinidog Addysg: “Mae Safon Uwch yn dal i fod yn gymhwyster uchel ei barch. Mae’n amlwg erbyn hyn, yn arbennig o ran y pynciau STEM, bod ein myfyrwyr yn dechrau meddwl ymlaen ymhellach am y math o sgiliau a chymwysterau fydd eu hangen arnynt i fynd ymlaen i Addysg Uwch neu gyflogaeth.”
Mae canlyniadau Bagloriaeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod:
· Mwy na 10,000 o ddysgwyr (10,362) wedi cwblhau rhaglenni Bagloriaeth Cymru ar lefel Uwch eleni;
· 9,159 o ddysgwyr wedi ennill Tystysgrif Graidd Bagloriaeth Cymru ar lefel Uwch;
· 8,565 o ddysgwyr wedi ennill y Dystysgrif Graidd yn ogystal â’r gofynion opsiynol ac, felly, wedi ennill Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru yn llawn. Mae’r nifer hwn 306 yn fwy na’r llynedd.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae’n galonogol gweld bod Bagloriaeth Cymru, ein cymhwyster blaenllaw, yn parhau i ddod yn fwyfwy poblogaidd. Mae mwy o ddysgwyr yn sylweddoli pa fath o gyfleoedd y mae’n eu cynnig iddyn nhw wrth wneud cais am brifysgol neu fynd i fyd gwaith.
“Mae’r myfyrwyr sydd wedi ennill Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru wedi cael cymhwyster y mae prifysgolion wir yn ei gymryd o ddifrif, ac sy’n cael ei dderbyn yn eang fel cymhwyster mynediad ar gyfer dilyn cyrsiau gradd. Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster ychwanegol i’r Safon Uwch a chymwysterau eraill ar lefel uwch y mae myfyrwyr yn eu hennill fel rhan o’u rhaglenni dysgu.”