Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Awst 2013

Cefnogwyr Man Utd yn cael eu hannog i dreulio 'Amser Fergie' ym Mae Abertawe

Mae cefnogwyr Manchester United yn cael eu hannog i dreulio ychydig o 'Amser Fergie' ym Mae Abertawe dros y penwythnos hwn.

Mae Cyngor Abertawe wedi codi posteri stribed comig yng Ngorsaf Drenau Victoria Manceinion sy'n dangos cynllunio tactegol manwl ar gyfer gêm dydd Sadwrn yn Stadiwm Liberty ar un hanner ac yna delwedd sy'n awgrymu y gallai Syr Alex Ferguson fod yn ymlacio ar draeth Gŵyr ar y llall.

Daeth y syniad ar ôl ymddeoliad Syr Alex ym mis Mai. Mae 'Amser Fergie' yn derm a ddefnyddir gan rai pobl yn y byd pêl-droed i ddisgrifio'r amser ychwanegol ar ddiwedd gemau roeddent yn teimlo y byddai Manchester United yn sgorio yn ei ystod oherwydd dylanwad Syr Alex.

Mae'r posteri'n rhan o ymgyrch 'Gwnewch i wyliau bara am oes' Cyngor Abertawe yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Meddai'r Cyng. Nick Bradley, Aelod y Cabinet dros Adfywio: "Bydd diddordeb aruthrol yn y gêm hon. Bydd yr Elyrch yn croesawu un o glybiau mwyaf y byd yn eu gêm agoriadol yn yr Uwch Gynghrair.

"Yn ogystal â hyn, dyma gêm gynghrair gyntaf David Moyes wrth lyw Manchester United. Mae hyn yn golygu y bydd llygaid y byd ar Fae Abertawe unwaith eto.

"Mae gemau mor bwysig â hyn yn gyfle gwych i dynnu mwy o sylw at Fae Abertawe a denu miloedd o ymwelwyr yma. Mae ein tîm twristiaeth wedi gwneud gwaith bendigedig ers i'r Elyrch gyrraedd yr Uwch Gynghrair trwy fanteisio i'r eithaf ar y statws i hyrwyddo Bae Abertawe, ond rydym yn benderfynol o wneud hyd yn oed yn well dros y tymor nesaf."

Mae'r graffig stribed comig hefyd wedi'i anfon at newyddiadurwyr pêl-droed blaenllaw a gwefannau cefnogwyr ar draws y DU. Mae hefyd wedi'i rannu ar Facebook a Twitter ac wedi'i gynnwys ar wefan swyddogol y cyrchfan, sef www.dewchifaeabertawe.com.

Mae gwaith graffig arall sy'n ymwneud â phêl-droed wedi'i ddefnyddio i hyrwyddo Bae Abertawe ers i'r Elyrch gael eu dyrchafu i'r Uwch Gynghrair. Ers eu defnyddio, mae cefnogwyr Dewch i Fae Abertawe Facebook wedi cynyddu bron 270% i fwy na 39,000, ac mae nifer cefnogwyr Twitter wedi codi 87% i dros 4,450. Gwelwyd gwaith graffig hyrwyddol dros 5,700 o droeon yn nhymor 2012/2013 – hynny yw 820 o droeon y graffig ar gyfartaledd.

Os yw'r graffig yn codi gwên ar eich wyneb, trydarwch y tîm twristiaeth @visitswanseabay neu ewch i www.facebook.com/visitswanseabay ar Facebook. 

Rhannu |