Mwy o Newyddion
Glesni Haf Jones yn cipio Medal Ddrama
Enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau eleni yw Glesni Haf Jones o Gaerdydd ond yn wreiddiol o’r Wyddgrug, Sir y Fflint. Cyflwynir y Fedal Ddrama am gyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd ac mae’n rhoddedig er cof am Urien Wiliam gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan. Mae’r enillydd hefyd yn derbyn gwobr ariannol o £500 sy’n rhodd gan Theatr Twm o’r Nant, Dinbych.
Y beirniaid eleni oedd Geraint Lewis a Mared Swain. Ymgeisiodd 13 a gwaith Famau dwi am ei drama “Dŵr Mawr Dyfn” sydd yn llawn deilyngu’r Fedal eleni. Dywed y beirniaid “ Mae gan y dramodydd ddawn ysgrifennu a phob clod iddo/i am ddefnyddio ffurf theatrig i gyfathrebu teimladau ac emosiynau mewn ffordd mor gyffrous”
Drama yw hon am ferch ifanc sydd ar fin priodi gŵr sy’n dipyn hŷn na hi, cyn gariad ei mam, ac felly dathla ei noson iâr gyda’i ffrind gorau, a’i hunig ffrind Cadi Wyn. Mae tad y ferch ifanc-Tryweryn- yn byw yn Lerpwl, a dyma yw prif ganolbwynt y ddrama. Aiff ar ei noson iâr er mwyn canfod esgus i weld ei thad nad yw wedi ei weld ers iddi fod yn ei harddegau, ers i’w mam a’i thad wahanu. Teimla gasineb at ei mam, am ei bod yn ei beio am adael ei thad flynyddoedd ynghynt.
Mae Tryweryn yn symbol o’r Cymry ifanc, y rhwyg sydd yna rhwng aros yng Nghymru i gadw'r Gymraeg a Chymreictod yn fyw, ac eisiau dianc a phrofi’r byd. Mae mam Tryweryn yn cynrychioli’r Gymraes draddodiadol a aiff i’r capel, a’r tad yn symbol o rywun sydd wedi cael llond bol ar Gymru a phopeth sy’n gysylltiedig â hi. Oherwydd hyn, ni ŵyr Tryweryn i ble i droi.
Llif ymwybod Tryweryn yw’r ddrama hon, digwydd y ddrama yn ei phen. Yn gefndir i’r stori mae hanes boddi Tryweryn, a’r sgil effeithiau i Gymru, ac i’r gymuned ei hun, a sut effeithia hyn ar genedlaethau wedi’r digwyddiad. Penderfynodd alw y prif gymeriad yn Tryweryn fel alegori o hyn. Fel merch yn wreiddiol o’r Wyddgrug, roedd yr awdur yn gweld cysylltiad Lerpwl gyda gogledd Cymru yn gryfach ar brydiau na’r cysylltiad rhwng y gogledd â Chaerdydd.
Ganed Glesni Haf Jones yn yr Wyddgrug yn 1986. Mynychodd Ysgol Gynradd Glanrafon yn yr Wyddgrug, ac yna Ysgol Maes Garmon yn y dref. Yn dilyn hynny, aeth i Brifysgol Cymru Aberystwyth lle graddiodd gyda anrhydedd mewn Cymraeg a Drama. Wedi ennill diploma ym Mhrifysgol Caerdydd, bu’n gweithio am gyfnod yn Adran Olygyddol CBAC yn y brifddinas. Bellach mae’n swyddog ymchwil gyda Beaufort Research, cwmni ymchwil i’r farchnad yng Nghaerdydd, ac yn byw yn Grangetown. Mae hi hefyd wedi ei chymhwyso fel athrawes Gymraeg i Oedolion gyda Phrifysgol Caerdydd.
Er iddi hi fod yn llwyddiannus gydag ysgrifennu drama fer yng nghystadleuaeth Sherman Cymru, Sgript Slam, yn Eisteddfod Wrecsam ddwy flynedd yn ôl, dyma ei hymgais gyntaf ar ysgrifennu drama hir.