Mwy o Newyddion
Cau pen y mwdl ar Sgwrs Radio Cymru
Mae BBC Cymru Wales wedi cael dros 1,000 o ymatebion i Sgwrs Radio Cymru ac ar ddydd Gwener, Awst 9 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych fe fydd Golygydd Rhaglenni BBC Radio Cymru, Betsan Powys, yn cynnal cyfarfod arbennig i drafod rhai o’r canfyddiadau.
Mewn sesiwn holi ac ateb yn Theatr S4C, ar ddydd Gwener rhwng 1pm a 2pm, a fydd yn cael ei darlledu’n fyw ar raglen Taro’r Post, bydd cyfle i ofyn cwestiynau a chlywed beth sydd gan Betsan i’w ddweud am rai o ganfyddiadau’r Sgwrs hyd yn hyn.
Mae’r Sgwrs yn annog gwrandawyr i rannu eu barn ynglŷn â phob agwedd o’r orsaf ac yn cyd-fynd â’r prosiect ymchwil radio mwyaf erioed yng Nghymru. Wrth gymryd yr awenau yn arwain Radio Cymru fis diwethaf, fe gadarnhaodd Betsan bod yr ymateb gan bobl ledled Cymru wedi bod yn sylweddol.
Lansiwyd y Sgwrs yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd ym mis Ebrill gyda’r nod o helpu sicrhau y byddai Radio Cymru yn parhau’n wasanaeth llwyddiannus, uchelgeisiol a bywiog am flynyddoedd i ddod.
Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni Radio Cymru: “Mae’r niferoedd sydd wedi ymateb i’r Sgwrs wedi bod yn galonogol iawn a rwy wir yn gwerthfawrogi cyfraniadau’r holl unigolion a sefydliadau sydd wedi bod mor barod i rannu eu barn ynglŷn â’r orsaf. Mae’r sialensau sy’n wynebu gwasanaethau radio yn y Gymraeg yn sylweddol o ganlyniad i newidiadau cymdeithasol ac ieithyddol ond rwy’n awchu i fynd i’r afael â nhw a sicrhau dyfodol llewyrchus i Radio Cymru.
“Rwy’n dipyn o eisteddfodwraig a byddai ar y maes gydol yr wythnos yn barod i sgwrsio a gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud am Radio Cymru. Rwy hefyd yn annog pobl i ddod i’r sesiwn holi ac ateb ar ddydd Gwener ble fyddai’n crynhoi rhai o ganfyddiadau’r Sgwrs hyd yn hyn ac cymryd cwestiynau gan aelodau o’r gynulleidfa yn Theatr S4C. Mae croeso i bawb wrth i ni gau pen y mwdwl ar Sgwrs Radio Cymru.”
Fe fydd Sgwrs Radio Cymru yn dod i ben ar ddiwedd wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Ers y gwanwyn mae BBC Cymru Wales wedi bod yn casglu’r holl ymatebion ac yn eu hystyried ochr yn ochr â’r ymchwil sy’n cael ei gynnal. Y nod yw amlinellu’r strategaeth ar gyfer Radio Cymru yn yr hydref.
Mae gwrandawyr yn gallu lleisio eu barn mewn nifer o ffyrdd.
Drwy e-bostio sgwrsradiocymru@bbc.co.uk
Drwy ffonio llinell arbennig Sgwrs Radio Cymru ar 03703 33 16 36
Drwy ysgrifennu at Sgwrs Radio Cymru, Ystafell 3020, BBC Cymru Wales, Llandaf, Caerdydd, CF5 2YQ.
Fe fydd sesiwn holi ac ateb Betsan Powys yn Theatr S4C ar faes yr Eisteddfod, ar ddydd Gwener Awst 9, 1pm – 2pm.