Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Awst 2013

357 o gartrefi newydd i liniaru effeithiau’r ‘Dreth Ystafell Wely’

Mae'r Gweinidog Tai, Carl Sargeant, wedi cyhoeddi y caiff yr £20 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i neilltuo er mwyn lliniaru effeithiau newidiadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau lles ei ddefnyddio ar gyfer adeiladu 357 o gartrefi fforddiadwy llai ar draws Cymru.

Bydd y cyllid yn cynorthwyo Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ganolbwyntio ar adeiladu mwy o gartrefi ag un neu ddwy ystafell wely, gan alluogi rhai tenantiaid i symud i gartrefi llai er mwyn osgoi effeithiau’r ‘Dreth Ystafell Wely’.  

Dywedodd y Gweinidog: “Mae Llywodraeth Cymru’n poeni’n fawr fod llawer o gartrefi sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd i gadw dau ben llinyn ynghyd yn wynebu cryn galedi yn sgil newidiadau Llywodraeth y DU i’r system fudd-daliadau. Dywed awdurdodau lleol fod y Dreth Ystafell Wely yn effeithio ar dros 35,000 o aelwydydd yng Nghymru.     

“Ers i’r rheolau ynghylch y budd-dâl tai a maint aelwydydd newid ar 1 Ebrill eleni mae’r galw am gartrefi llai sydd ag un neu ddwy ystafell wely wedi cynyddu’n fawr.   

“Er gwaethaf yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £20 miliwn yn y Rhaglen Eiddo Llai ac mae wedi gofyn i bob awdurdod lleol enwi cynlluniau a allai elwa ar y cyllid.  

“Rwy’n awyddus i wneud cymaint ag y gallaf i gefnogi tenantiaid er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith ar ein cymunedau. Rwy’n cydnabod, fodd bynnag, bod angen gwneud llawer iawn mwy i liniaru effeithiau newidiadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau."

Llun: Carl Sargeant

Rhannu |