Mwy o Newyddion
Gŵyl Fwyd arbennig yn dod i ganol y ddinas
Bydd rhywbeth at ddant pawb yng nghanol dinas Abertawe yn hwyrach y mis hwn.
Cynhelir y Fwydlen Gymreig yn Fyw, sy'n ceisio hyrwyddo cynnyrch lleol a rhanbarthol, yn Sgwâr y Castell, ar Ffordd y Dywysoges ac ym Marchnad Abertawe o 10am i 5pm ddydd Gwener a dydd Sadwrn 16 ac 17 Awst.
Bydd Sgwâr y Castell yn ardal adloniant a bwyd stryd lleol o'r enw 'Sound Bites' yn ystod dau ddiwrnod y digwyddiad. Bydd llwyfan cerddoriaeth fyw gyda bandiau lleol hefyd yn cael ei osod.
Bydd Ffordd y Dywysoges yn cynnwys marchnad gynnyrch gan gynnwys hufen iâ, siocled, gwin, seidr a gwneuthurwyr caws lleol. Mae theatr fwyd deithiol hefyd wedi'i threfnu gydag arddangosiadau gan gogyddion lleol a rhanbarthol.
Bydd Marchnad Abertawe yn cynnal digwyddiad i blant iau sy'n dwlu ar fwyd mewn cydweithrediad â Cookibods, cwmni lleol sy'n rhoi gwersi coginio i blant. Mae gweithgareddau creu pasta gyda blas Cymreig ymysg y cynlluniau.
Figleaf Media sy'n trefnu'r Fwydlen Gymreig yn Fyw mewn cydweithrediad â Chyngor Abertawe a gyda nawdd gan BID Abertawe (Rhanbarth Gwella Busnes).
Meddai'r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio: "Mae gan ardal Bae Abertawe enw da am fwyd a diod, a rhaid i ni ddathlu popeth sy'n cael ei gynhyrchu'n lleol.
"Digwyddiadau fel hyn sy'n codi proffil masnachwyr lleol ac yn rhoi hwb i siopau canol y ddinas hefyd drwy ddenu miloedd o bobl i leoedd fel Sgwâr y Castell a Ffordd y Dywysoges.
"Rydym yn gwneud popeth y gallwn i annog mwy a mwy o bobl i ymweld â chanol dinas Abertawe ac rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn dod yn rhan o'n calendr o ddigwyddiadau blynyddol.
"Bydd y Fwydlen Gymreig yn Fyw yn rhoi cyfle i bobl brynu a gwerthu oddi wrth y cynhyrchwyr, mwynhau adloniant gan fandiau lleol, cinio gwahanol gyda gwerthwyr bwyd stryd neu mynnwch awgrymiadau coginio gan brif gogyddion."
Mae Samba Tawe yn perfformio yn ystod yr ?yl a bydd Fferm Gymunedol Abertawe hefyd yn ymweld. Bydd Sain Abertawe a'r Wave yn darlledu o'r safle.
Ymysg yr uchafbwyntiau eraill fydd arddangosiadau coginio gan y cogydd a'r cyflwynydd bwyd ar y teledu, Matt Tebbutt. Mae Matt yn gyflwynydd rheolaidd ar Food Unwrapped ar Channel 4, ac mae hefyd yn ymddangos ar the Great British Food Revival ar BBC 2 hefyd. Bydd hefyd yn llofnodi copïau o'i lyfr newydd.