Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Awst 2013

Addewid i daclo troseddau cefn gwlad

Dros yr wythnosau nesaf bydd y Comisiynydd Heddlu, Winston Roddick, yn ymweld â nifer o sioeau amaethyddol yng ngogledd Cymru i gyfarfod â ffermwyr a phobl o ardaloedd gwledig i drafod y Cynllun Troseddau Cefn Gwlad a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Heddlu Gogledd Cymru.

Roedd taclo troseddau cefn gwlad yn un o addewidion cyntaf y Comisiynydd ar ôl iddo gael ei ethol fis Tachwedd diwethaf. Ers hynny mae Heddlu Gogledd Cymru wedi datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r mathau o droseddau sy'n effeithio ar ardaloedd gwledig. Dyma’r heddlu cyntaf yng Nghymru, ac un o ddim ond ychydig ledled y DU, i lansio cynllun o’r fath.

Eglurodd Mr Roddick: “Fel Comisiynydd, mae yna ddyletswydd arnaf i wrando ar safbwyntiau pobl gogledd Cymru ac i gynrychioli’r safbwyntiau hynny wrth osod cyfeiriad strategol yr heddlu.

“Dros gyfnod yr etholiad siaradais â channoedd o bobl. Dro ar ôl tro y neges a gefais gan bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, ac yn aml iawn, ynysig, oedd bod troseddau yn eu cymunedau yn fater sy'n peri gofid cynyddol iddynt. Dywedodd llawer o'r ffermwyr hyn wrthyf eu bod wedi dioddef trosedd o ryw fath, gan gynnwys lladradau offer, tanwydd, metel sgrap ac anifeiliaid.

“Drwy’r Cynllun Troseddau Cefn Gwlad, bydd yr heddlu’n canolbwyntio ar leihau ac atal trosedd fwy fyth a gwneud i bobl deimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi ac mewn mannau cyhoeddus.”

Un o nodweddion allweddol Cynllun Troseddau Cefn Gwlad Gogledd Cymru yw’r tîm newydd sbon o 7 PCOS a 3 swyddog heddlu fydd yn ymdrin yn benodol â throseddau cefn gwlad.

Mae’r PCSOs wedi bod yn eu swyddi ers rhai misoedd bellach ac maent eisoes wedi meithrin perthnasau cryf â chymunedau lleol. Cafodd y tri swyddog heddlu ychwanegol eu penodi’n ddiweddar a byddant yn eu swyddi erbyn dechrau Medi.

Meddai Rhingyll Rob Taylor, Rheolwr y Tîm Troseddau Cefn Gwlad: “Bydd y Tîm newydd yn dod a'i heriau ei hun, ac rwy'n hyderus y gallwn eu diwallu. Bydd y cwnstabliaid newydd rhyngddynt yn gyfrifol am  y 6 sir a byddant yn gweithio'n agos â ffermwyr a'r gymuned wledig er mwyn bod yn bresenoldeb proffil uchel a mynd i’r afael â throseddau.”

Meddai Mr Roddick:  “Y Tîm Troseddau Cefn Gwlad fydd y ddolen gyswllt hollbwysig rhwng yr heddlu a’r cymunedau gwledig. Bydd yn cryfhau gwasanaethau’r heddlu drwy ymateb i anghenion lleol a sicrhau fod materion cefn gwlad wrth galon busnes yr Heddlu."

Roedd trafodaethau gyda’r undebau ffermio,  Undeb Amaethwyr Cymru a’r NFU, Clybiau Ffermwyr Ifanc a’r Gymdeithas Tir a Busnesau Gwledig yn rhan bwysig o’r gwaith o baratoi'r Cynllun er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu safbwyntiau a barn cymunedau gwledig.

Meddai Gwynedd Watkin, Swyddog Gweithredol Sirol Undeb Amaethwyr Cymru: "Rydym yn croesawu cyflwyniad y Cynllun Troseddau Cefn Gwlad yn fawr iawn. Mae ein haelodau wedi bod yn falch iawn o gael y cyfle i gyflwyno eu barn i'r Comisiynydd ac rydym wrth ein bodd fod rhywun yn gwrando ar yr hyn yr ydym yn ei ddweud.

"Bydd buddsoddi mewn taclo troseddau cefn gwlad yn hwb mawr i'r economi ffermio ac yn gwella diogelwch cymunedau gwledig, ynysig.'

Meddai Ed Bailey, Llywydd NFU Cymru: “Gan fod plismona modern yn ddibynnol ar gydlynu, cydweithrediad a chasglu gwybodaeth da, mae NFU Cymru’n croesawu penodiad y tri swyddog cefn gwlad newydd gan Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae hyn yn anfon neges glir fod yr heddlu o ddifrif ynglŷn â phlismona ardaloedd gwledig a mynd i’r afael â’r troseddau sy’n digwydd yno, a gwneud gogledd Cymru yn lle digroeso i’r rhai sy’n cyflawni troseddau o’r fath.

"Gyda’r tair swydd newydd hon, un ar gyfer pob un o ardaloedd plismona gogledd Cymru, y Swyddogion Cefnogi Cymuned lleol dynodedig, y gymuned ffermio drwy'r cynllun gwarchod ar-lein, a'r partneriaethau diogelwch cymunedol, gallwn wneud gwahaniaeth i'r ystadegau trosedd ac yn y pen draw wella bywydau a diogelu busnesau trigolion cefn gwlad."

 

Rhannu |