Mwy o Newyddion
Croesawu ymchwil ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd
Mae Prif Weinidog Cymru a phenaethiaid S4C a BBC Cymru wedi croesawu adroddiad ymchwil a gomisiynwyd ar y cyd gan y tri chorff i’r defnydd o’r Gymraeg.
Nod yr ymchwil gan Beaufort Research oedd deall mwy am arferion iaith pobl Cymru mewn nifer o sefyllfaoedd o ddydd i ddydd, yn cynnwys eu bywyd cymdeithasol, yn y gweithle ac ar draws y cyfryngau torfol a’r cyfryngau cymdeithasol. Edrychodd y prosiect hefyd ar agweddau’r cyhoedd tuag at ddefnyddio’r Gymraeg, ac ar y ffactorau sydd yn annog a rhwystro defnydd.
Cyhoeddir canlyniadau’r ymchwil i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a’r Cyffiniau 2013, a byddant yn cael eu trafod mewn sesiwn arbennig sydd yn cael ei drefnu gan Cyfrwng ac S4C ar faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Gwener 9 Awst).
Dangosodd yr ymchwil bod nifer o ffactorau’n dylanwadu ar ddefnydd ieithyddol ac agweddau siaradwyr Cymraeg tuag at yr iaith. Mae parodrwydd mawr i wneud mwy drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyffredinol, gyda 84% o’r rhai a holwyd yn nodi y byddent yn croesawu’r cyfle i wneud mwy yn yr iaith. Dangosodd yr ymchwil hefyd bod diffyg hyder a phryder am safon eu Cymraeg yn gallu rhwystro rhai rhag gwneud mwy o ddefnydd ohoni.
Roedd diffyg ymwybyddiaeth yn aml o arlwy’r cyfryngau Cymraeg, yn ogystal ag argaeledd gwasanaethau Cymraeg ar-lein, a gwelwyd hynny yn faes ble mae angen gwella. Mae’r canlyniadau’n dangos fod angen gwneud mwy i ddatblygu’r Gymraeg fel iaith ar-lein ymysg y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg, gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg,
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Nod yr ymchwil hwn oedd cael gwell dealltwriaeth o ddefnydd pobl o'r iaith Gymraeg ac i nodi strategaethau i annog mwy o bobl i siarad Cymraeg yn eu bywydau bob dydd.
“Mae annog pobl ifanc i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn un o flaenoriaethau ein strategaeth, Iaith fyw: iaith byw. Diddorol, felly, yw nodi canlyniadau’r ymchwil ynghylch ymwneud y grŵp oedran 16-24 oed â’r iaith. Mae’n tanlinellu’r ffaith fod angen cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer pobl ifanc, a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith.
“Roedd hon hefyd yn thema yn y sgwrs genedlaethol ar ddyfodol yr iaith a arweiniodd at Y Gynhadledd Fawr – lle bu pobl o bob cwr o Gymru, ac o bob cefndir a gallu yn y Gymraeg, yn rhan o’r drafodaeth am ddyfodol yr iaith.
“Bydd yr ymchwil hwn yn ein helpu i lywio ein polisïau ar gyfer yr iaith wrth i ni ymateb i heriau ffigyrau Cyfrifiad 2011 a'r wybodaeth a safbwyntiau a rannwyd yn ystod y Gynhadledd Fawr."
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Y rheswm y codais y posibilrwydd o wneud y math yma o ymchwil yn wreiddiol oedd i ni gael deall sut mae pobl Cymru’n teimlo ynglŷn â defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn gyffredinol. Mae datblygu darlun llawn yn hyn o beth yn bwysig i ni ym maes darlledu – ac i eraill ar draws Cymru. Mae’n braf iawn i weld bod 81% o Gymry Cymraeg wedi gwylio S4C o fewn mis yr arolwg ond wrth edrych i’r dyfodol, mae’n rhaid ceisio deall agweddau’r gynulleidfa yn llawn os ydyn ni’n mynd i ddarparu’r hyn y mae pobl Cymru am ei gael gan y cyfryngau.
“Mae’r ymchwil yn cadarnhau’r hyn roedden ni’n ei gredu, sef bod defnydd o blatfformau digidol a’r cyfryngau cymdeithasol yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae hynny’n galondid o ystyried y pwyslais y mae S4C bellach yn ei roi ar gyrraedd y gynulleidfa mewn cymaint â phosib o ffyrdd.”
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies: “Mae ymchwil o’r math yma yn holl bwysig wrth ddatblygu gwasanaethau sy’n berthnasol ac yn ddeniadol i’n cynulleidfaoedd. Mae’r adroddiad yn nodi pryderon ynglŷn â gwasanaethau ar-lein Cymraeg, sy’n fater y mae BBC Cymru Wales eisoes yn mynd i’r afael â hi gyda budsoddiad newydd a sylweddol i ddatblygu gwasanaeth ar-lein Cymraeg newydd – ‘Cymru Fyw’. Ein bwriad yw creu gwasanaeth fydd yn gyfoes ac unigryw ac yn ehangu apêl a chyrhaeddiad gwasanaethau Cymraeg ar-lein, ac wrth gwrs, annog y defnydd o’r Gymraeg ymhlith yr ifanc.
“Mae ein ffocws hefyd wedi’i hoelio ar bobol sy’n llai hyderus eu Cymraeg wrth i ni gynnal y prosiect ymchwil radio mwyaf erioed, sy’n mynd law yn llaw â Sgwrs Radio Cymru, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr orsaf yn groesawgar ac yn cynnig amrywiaeth i’r ganran sylweddol hynny o siaradwyr Cymraeg sydd am wneud mwy trwy gyfrwng y Gymraeg. Ry’n ni’n rhannu dyhead ein partneriaid yn yr ymchwil hyn i sicrhau dyfodol ffyniannus a chyfoethog yn y defnydd o’r Gymraeg.”
Llun: Ian Jones