Mwy o Newyddion
Jane Jones Owen yn ennill Medal Ryddiaith
Ar gyfer cystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith eleni gofynnwyd am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema “Cwlwm”. Rhoddwyd y wobr sef Y Fedal Ryddiaith a £750 gan Glwb Rotari Dinbych.
Ymgeisiodd 10 a’r beirniaid oedd Menna Baines, Harri Parri ac Elfyn Pritchard ac er bod anghytuno rhwng y beirniaid, gwaith Sidan sydd yn dod i’r brig.
Cyfrol o lên meicro a geir gan Sidan. O dan y teitl 'Gwe o Glymau Sidan' ceir 59 o ddarnau, o amrywiol hyd. Mae Sidan wedi gosod y darnau o dan enwau lleoedd yng Nghymru gan eu cynnwys yn nhrefn yr wyddor. Lleoedd yn y gogledd ydynt, yn ymestyn o Aberdaron i'r Wyddgrug. Cyfoes yw cynnwys y darnau ar y cyfan ond gydag un neu ddau ymweliad â'r gorffennol hefyd. Mae ambell thema gyffredin yn rhedeg drwy'r darnau, e.e. y newid cymdeithasol sydd wedi digwydd yng nghefn gwlad Cymru, a dioddefaint merched dan law dynion. Mae'r awdur yn sylwebydd craff ar fywyd ac mae ganddo/i ddawn dweud ryfeddol. Yn ôl y beirniaid, Sidan yw awdur mwyaf dyfynadwy’r gystadleuaeth.
Jane Jones Owen yw’r pedwerydd o blant Cefn Gwyn, Llanuwchllyn, a’i chof addysgol cynharaf yw gorymdeithio’n bedair oed o hen ysgol bentref Llanuwchllyn i ysgol newydd sbon Syr O. M Edwards, a agorwyd ym 1954. Ni chafodd y pleser o deithio ar y trên o Lanuwchllyn i Ysgol Ramadeg y Merched yn y Bala gan fod Dr Beeching wedi cau’r rheilffordd ym 1962; felly ar fws Dei y teithiai'r plant i un o dair ysgol uwchradd tref y Bala cyn y cyfunwyd yr ysgolion i ffurfio Ysgol Uwchradd Gyfun, sef Ysgol y Berwyn, a agorwyd ym 1964.
Yn 1968, aeth Jane i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd ymhen tair blynedd gydag Anrhydedd yn y Gymraeg. Yn dilyn ei chwrs ôl-raddedig i gymhwyso fel athrawes, bu’n gweithio fel Llyfrgellydd am gyfnod byr yn Aberystwyth ac yn newyddiadurwraig lawrydd i raglen ‘Bore Da’ o Fangor. Dechreuodd ar ei gyrfa fel athrawes Gymraeg, Saesneg, ac ychydig o Ffrangeg ac Ysgrythur i oedran uwchradd cyn ailgymhwyso a bu’n athrawes Blynyddoedd Cynnar am gyfnod byr.
Pan benderfynodd y Cyngor Sir gael polisi dwyieithrwydd, newidiodd ei gyrfa a symudodd i’r Wyddgrug i fod yn brif gyfieithydd-olygydd Cyngor Sir Clwyd. Wedyn, pan ad-drefnwyd Llywodraeth Leol ym 1996, fe’i penodwyd yn brif gyfieithydd-olygydd Cyngor Sir Ddinbych a bu’n aelod gweithgar o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Erbyn hyn, mae’n mwynhau ei phedwerydd haf o ymddeoliad ac yn cael cyfle i ddatblygu nifer o ddiddordebau gan gynnwys ysgrifennu creadigol.
Enillodd ar gyfieithu drama tair act yn Eisteddfod Genedlaethol Porthmadog yn 1987 ac yn ddiweddar, enillodd ar gystadleuaeth y stori ddychan yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint yn Yr Wyddgrug 2007, ac ar gasgliad o ddeg stori micro yn Eisteddfod Genedlaethol 2009 yn Y Bala.
Mae ganddi ferch o’r enw Mari Angharad a dwy wyres o’r enw Ailla a Niamh sy’n ddisgynyddion o dras gymysg Gymreig, Gwyddelig, Albanaidd a Phwylaidd ac sy’n trigo yng Nghernyw ers deuddeng mlynedd.