Mwy o Newyddion
Ieuan Wyn yn ennill Tlws y Cerddor
Ar gyfer cystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau eleni gofynwyd am ddarn corawl di-gyfeiliant seciwlar rhwng pedwar a saith munud o hyd.
Yn ogystal â derbyn Tlws y Cerddor sydd yn rhoddedig gan Urdd Cerddoriaeth Cymru unwaith eto eleni, mae’r enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £500 sydd yn cael ei rhoi gan Gymdeithas Gorawl Dinbych. Hefyd cynigir ysgoloriaeth gwerth £2,000 gan yr Eisteddfod Genedlaethol i hyrwyddo gyrfa’r cyfansoddwr buddugol.
Ymgeisiodd 8 a beirniadwyd y gwaith gan Sioned James ac Owain Llwyd ac mae’r ddau yn cytuno fod gwaith Fi yn haeddu’r wobr a’r clod. Yr enillydd yw Ieuan Wyn o Gaerdydd.
Yn ôl y beirniaid mae’r cyfansoddwr hwn wedi dewis alaw syml a phrydferth wedi’i phlethu â harmonïau soniarus a hudol. Mae natur y darn yn gweddu i unrhyw gôr amatur cyfoes ac mae’n ddarn gafaelgar o’r bar cyntaf. Er yn syml ar yr olwg gyntaf, mae’r harmonïau’n gyfoethog ac mae dynameg amrywiol y darn yn gofyn am gryn ddisgyblaeth lleisiol. Ceir uchafbwynt naturiol ac effeithiol, ond efallai nad yw’r diweddglo yr un mor drawiadol â chyffyrddiadau eraill yn y gwaith.
Ganwyd Ieuan Wyn yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Ar ôl derbyn ei addysg uwchradd yn ysgolion Plasmawr a Glantaf, symudodd i Fangor i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol. Wedi hynny, addysgwyd ef ymhellach ar gwrs M.Sc. Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru.
Ers cwblhau ei addysg, mae wedi bod yn gweithio fel recordydd sain i gwmni adnoddau ‘Gorilla’ yn y brifddinas. Trwy ei waith, mae wedi bod yn ffodus iawn i gael y cyfle i gyfansoddi a threfnu nifer o ganeuon i’w darlledu ar Cyw a Stwnsh ar S4C.
Mae wedi dod yn agos i’r brig droeon yng nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd. Dros y blynyddoedd, mae Ieuan hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru dair gwaith gan gynnwys ennill y drydedd wobr yn 2008
Mae’n aelod o Gôr Caerdydd ers blynyddoedd a thrwy hynny y cafodd y cyfle cyntaf i drefnu ac ysgrifennu gweithiau corawl. Yn ddiweddar, cafodd gomisiwn i ysgrifennu darn gwreiddiol ar gyfer y côr; mae’r darn ‘Caerdydd’ bellach i’w glywed ar gryno-ddisg newydd y côr a cafodd ei berfformio gan Aelwyd y Waun Ddyfal yng Nghystadleuaeth Côr Cymru 2013.