Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Awst 2013

Dysgwr y Flwyddyn

Martyn Croydon yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn eleni.

O Kiddeminster  y daw Martyn yn wreiddiol, ond dywed ei fod wedi gwirioni gyda Phen Llŷn ers cyn cof, a phan ddaeth y cyfle fe symudodd draw i Gymru i fyw, i redeg ei fusnes creu gwefannau ac i astudio gyda’r Brifysgol Agored.

Dechreuodd Martyn ddysgu Cymraeg gan ddefnyddio llyfrau a thros y we, ond ar ôl symud, dechreuodd fynychu gwersi Cymraeg ym Mhwllheli.  Erbyn hyn mae Martyn, sydd wedi setlo yn Llannor, wedi pasio’i arholiad Lefel A Cymraeg ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ers Medi 2012.

Mae Martyn yn weithgar iawn yn ei gymuned leol, ac mae hyn yn rhoi cyfle iddo ddefnyddio’i Gymraeg bob dydd, ac mae’n gwirfoddoli gyda’i bapur bro lleol, Llanw Llŷn.  Mae Martyn yn parhau i redeg ei gwmni gwefan o’i gartref yn harddwch Pen Llŷn.

Meddai Jon Leslie Thomas ar ran y beirniaid: “Roedd safon y cystadleuwyr eleni’n hynod o uchel, nid yn unig ymysg y rheini a gyrhaeddodd y rownd derfynol ond hefyd ymysg y rheini a fu’n cystadlu yn gynharach eleni.  Mae’n rhaid llongyfarch pawb a fu’n rhan o’r gystadleuaeth eleni.  Mae cael cyfle i feirniadu’r gystadleuaeth wedi bod yn anrhydedd fawr ac mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Martyn Croydon sy’n mynd â hi eleni.”

Ychwanegodd Janet Barlow, Prif Weithredwr y noddwyr, Agored Cymru: ‘Ein llongyfarchion cynhesaf i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni.  Mae'r ymroddiad a safon yn eithriadol o uchel, ac mae Agored Cymru'n falch i fod yn noddi digwyddiad a gweithgaredd mor boblogaidd am yr ail flwyddyn yn olynol."

Rhannu |