Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Gorffennaf 2013

Rhagrith trwyddedi arfau

Mae Cristnogion Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o "ragrith noeth" trwy roi trwyddedau i allforio gwerth £12 biliwn o arfau i wledydd sy’n gwadu hawliau dynol – a hynny yn ôl rhestr y llywodraeth ei hun.

Mae gwerthu arfau i lywodraeth Assad yn Syria ar y naill llaw, tra'n sôn am arfogi'r gwrthryfelwyr ar y llaw arall, yn wirioneddol wrthyn, meddai Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

"Mae caniatáu gwerthu arfau ar raddfa anferth i wledydd sydd ar restr Llywodraeth Prydain o’r rhai sy’n troseddi yn erbyn hawliau dynol - fel Zimbabwe a Sudan - yn rhagrith noeth gan ei fod yn galluogi’r cyfundrefnau hynny i barhau i erlid eu pobl," meddai Llywydd yr Undeb, y Parchg Ron Williams.

"Rwy’n deall yn iawn fod nifer fawr o bobl hynod fedrus yn gweithio yn y fasnach arfau, ond byddai o fudd anferth i ddynoliaeth petai eu sgiliau hwy yn cael eu defnyddio mewn meysydd eraill - megis gwyddoniaeth feddygol."

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg eisoes wedi galw ar Lywodraeth Prydain i rwystro cyflenwi offer milwrol i Fadagascar, gwlad sydd â chysylltiadau cryf â Chymru fyth ers i genhadon Cymreig fynd â’r efengyl Gristnogol i'r ynys honno bron i 200 mlynedd yn ôl. Mae Madagascar ar restr Prydain o wledydd sy'n gwadu hawliau dynol.

Llun: Y Parchedig Ron Williams

Rhannu |