Mwy o Newyddion
Heini Gruffudd yn ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn
CYHOEDDWYD neithiwr mai prif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013 yw Heini Gruffudd gyda’i gyfrol Yr Erlid (Y Lolfa).
Yn ôl y beirniaid, enillydd y categori Ffeithiol-greadigol oedd yn haeddiannol o’r teitl eleni. Mae’r llyfr yn olrhain hanes mam yr awdur, Kate Bosse-Griffiths a’i theulu yn ystod cyfnod dirdynnol yr Ail Ryfel Byd.
Yma clywn hanes o garu, o gasáu, o ofni ac o ladd wrth i deulu Kate Bosse-Griffiths gael eu herlid gan y Natsïaid.
Cyhoeddwyd y canlyniad mewn Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd gan Llenyddiaeth Cymru yn adeilad godidog Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd.
Cyflwynwyd y sieciau i’r enillwyr gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, a Chadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Dai Smith.
Yn fuddugol yn y categori Barddoniaeth eleni, mae Aneirin Karadog – bardd-berfformiwr a chyflwynydd teledu poblogaidd a ddaeth i’r brig gyda’i gyfrol gyntaf o farddoniaeth, O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas). Mae Aneirin hefyd newydd ddechrau ar ei waith fel Bardd Plant Cymru. Enillydd y categori Ffuglen eleni yw Manon Steffan Ros gyda’i nofel hynod boblogaidd, Blasu (Y Lolfa).
Roedd enillydd pob categori yn derbyn £2,000 yr un a’r awdur buddugol yn derbyn £6,000 yn ychwanegol.
Y tri ar y panel beirniadu eleni oedd Alun Gibbard, Bethan Elfyn ac Elin ap Hywel. Dywedodd Alun Gibbard, Cadeirydd y panel beirniadu: “Mae dros blwyddyn a hanner o bwyso a mesur cynnyrch gweisg Cymru nawr drosodd. Mae wedi bod yn galondid aruthrol i weld cymaint o gyfrolau oedd yn deilwng i'w hystyried a chymaint oedd eu safon hefyd. Yn y diwedd, daeth tri llyfr i'r brig. Penderfynwyd fod Heini Gruffudd yn mynd a ni gam ymhellach ac yn ddyfnach na'r ddau arall, ac yn ein hannog fel Cymry, i edrych mas yn lle edrych mewn o hyd.”
Doedd canlyniadau pleidlais Barn y Bobl ddim yn cyd-fynd â dewis y Beirniaid eleni, wrth i’r mwyafrif fynd i Llion Jones, awdur y gyfrol farddoniaeth Trydar Mewn Trawiadau (Cyhoeddiadau Barddas). Gweinyddwyd y bleidlais gan Golwg360, a derbyniodd Llion Jones ddarn o waith celf a gomisiynwyd yn arbennig yn wobr.
Rhian Edwards oedd prif enillydd y Wobr Saesneg gyda’i chyfrol o farddoniaeth Clueless Dogs (Seren). Dyma gyfrol gyntaf Rhian Edwards sydd wedi gwneud enw iddi ei hunan fel bardd-berfformiwr. Fe enillodd Wobr John Tripp ar gyfer Barddoniaeth Lafar yn 2011, ac yn 2012 derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd gan Lenyddiaeth Cymru. Roedd y bobl yn cytuno â dewis y beirniaid y tro hwn, gan i Rhian Edwards hefyd ennill y nifer uchaf o bleidleisiau ym mhleidlais The People’s Choice, a noddir gan Media Wales.
John Harrison sydd wedi dod i’r brig yn y categori Ffeithiol-greadigol gyda’i lyfr taith Forgotten Footprints (Parthian), a James Smythe yw enillydd y categori Ffuglen gyda’i nofel The Testimony (Blue Door).
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Rwy’n falch iawn i weld cyfrol ffeithiol greadigol yn ennill y wobr yn y Gymraeg. Mae cofnod Heini Gruffudd am fywyd ei fam yn yr Almaen ac yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn deimladwy a dirdynnol. Mae Rhian Edwards yn esiampl gwych o awdur yn codi o’r rhengoedd. O ennill gwobr John Tripp yn 2011, i dderbyn Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn 2012, mae nawr wedi dod i’r brig a chipio un o brif wobrau llenyddol Cymru.“
Gweinyddir Gwobr Llyfr y Flwyddyn gan Llenyddiaeth Cymru, a hynny mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Brycheiniog, Pethe, Golwg360, Media Wales a Chyngor Llyfrau Cymru.
Mae’r gwaith darllen eisoes wedi dechrau i feirniaid Llyfr y Flwyddyn y Flwyddyn 2014. Cyhoeddir eu henwau yn yr Hydref.