Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Gorffennaf 2013

Cadair i warchod y pethau traddodiadol

CYFLWYNWYD Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau  i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn digwyddiad arbennig yn Arthog, Dolgellau, ddydd Llun.

Cyflwynir y Gadair a’r wobr ariannol gan Gerallt a Dewi Hughes, er cof am eu rhieni, John a Ceridwen Hughes, Uwchaled.

Meddai John Glyn Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2013: “Mae derbyn y Gadair hon a ninnau o fewn wythnosau i’r Brifwyl yn un o uchafbwyntiau dros ddwy flynedd o waith i ddod â’r Eisteddfod Genedlaethol i Sir Ddinbych a’r Cyffiniau. 

“Rydw i’n eithriadol o falch i fod yma heddiw i dderbyn y Gadair hardd hon gan y noddwyr eleni, a mawr yw ein diolch iddyn nhw a’r crefftwr, Dilwyn Jones, am eu haelioni, eu hysbrydoliaeth a’u gwaith caled ar y Gadair."

Dilwyn Jones sy’n gyfrifol am gynllunio a chynhyrchu’r Gadair eleni.  Daw Dilwyn o Faerdy, ger Corwen, ac mae wedi cynllunio amryw o Gadeiriau’r Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae’n ymwybodol iawn o’r gwaith cywrain a gofalus sydd ei angen er mwyn creu Cadair.

Dywed: “Rwy’n credu’n gryf bod angen i Gadair fod yn adlewyrchiad o ddalgylch yr Eisteddfod, yn ddathliad parhaol o’r ardal lle y cynhaliwyd y Brifwyl. 

“Cadair o bren derw yw hon eleni, wedi’i ffurfio i gynrychioli tirlun naturiol Sir Ddinbych o’r môr i’r mynyddoedd. Mae’r breichiau sydd yn cofleidio cefn y Gadair yn awgrymu gwarchod y pethau traddodiadol sydd yn rhan annatod o’r sir." 

MWY

Rhannu |