Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Gorffennaf 2013

Casglu Cymrodoriaeth Anrhydeddus

Roedd seren y byd chwaraeon Non Davies, y tenor Wynne Evans a phrifweithredwr Menter Cwm Gwendraeth, Deris Williams ymhlith nifer o unigiolion a gafodd eu hanrhydeddu yr wythnos ddiwethaf gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mewn Seremoniau graddio ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol cafodd nifer eu gwneud yn Gymrodyr Anrhydeddus o’r Brifysgol yn cynnwys y Parch J E Wynne Davies; yr artist, darlledwr a’r darlithydd Osi Rhys Osmond, a’r Prifarolygydd Pam Kelly.

Ddydd Gwener, cafodd y seren deledu a’r cyn-fyfyriwr Jules Hudson, Is-Admiral Peter Wilkinson, CB, CVP a Phrifgwnstabl Heddlu Dyfed Powys. eu gwneud yn Gymrodyr Anrhydeddus mewn seremonïau ar gampws Llambed.

Cyflwynir cymrodoriaethau anrhydeddus mewn cydnabyddiaeth o gyfraniad unigolion i’w meysydd arbenigol i fywyd y Brifysgol neu gyhoeddus.

“Mae’r Seremoniau Graddio yn rhoi cyfle i gymuned y Brifysgol ddod at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau ein myfyrwyr a’n staff,” meddai’r Is-Ganghellor Yr Athro Medwin Hughes.

"Y mae’n adeg o’r flwyddyn pan dawn at ein gilydd i longyfarch ein graddedigion yn swyddogol a dymuno’n dda iddyn nhw yn y dyfodol.

"Gobeithwin nad fydd eu cysylltiad â’r Drindod Dewi Sant yn dod i ben wrth raddio ond y bydd yn parhau drwy eu bywyd proffesiynol a phersonol.

"Rydyn yn falch iawn hefyd o gael cydnabod llwyddiannau nifer o unigolion drwy gyflwyno Cymrodoriaethau Anrhydeddus.

"Mae’r rhain yn unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau ardderchog yn eu meysydd arbenigol ac y mae’n bleser gennym eu croesawu i deulu’r Brifysgol.”

Lluniau: Non Davies, Wynne Evans a Deris Williams

Rhannu |