Mwy o Newyddion
Urddo’r actor Richard Lynch yn Gymrawd
Urddwyd yr actor Richard Lynch yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth ddydd Gwener.
Cyflwynwyd Richard Lynch, a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 1987, gan yr Athro David Ian Rabey o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
Mae Richard Lynch wedi gweithio’n eang ym myd y theatr a theledu, gan ddod yn un o’r actorion uchaf ei barch yng Nghymru.
Yn brif actor gyda chwmnïau theatr blaenllaw megis The Royal Shakespeare Company, Y Cwmni, The Royal Court, Almeida Theatre a Brith Gof, mae’n arbennig o falch o’i gysylltiad agos â Theatr Genedlaethol Cymru, ac yn ddiweddar chwaraeodd y brif ran yn eu cynhyrchiad o Coriolanus.
Mae’n dal i feithrin perthynas agos â Lurking Truth/Y Gwir sy’n Llechu, a sefydlodd ar y cyd â David Ian Rabey pan oedd yn fyfyriwr israddedig, ac fe gyfarwyddodd ‘‘I Saw Myself’ gan Howard Barker yn Theatr y Chapter, Caerdydd y llynedd.