Mwy o Newyddion
Cyngerdd Adelina Patti yng Nghastell Craig y Nos
ROEDD Adelina Patti yn gantores opera fyd-enwog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae hi’n dal i gael ei hystyried yn un o’r sopranos gorau yn hanes y byd.
Ganwyd Adelina yn Sbaen yn ferch i’r tenor Salvatore Patti a’r soprano Caterina Barilli ond magwyd hi yn Efrog Newydd.
Yn ddiweddarach, yn ystod trip i Gymru, disgynnodd Adelina mewn cariad gyda Chastell Craig y Nos ger Ystradgynlais ym Mhowys, a phenderfynodd brynu’r castell a byw yno.
Roedd hi wrth ei bodd yn cynnal cyngherddau yn y Castell, gan wahodd boneddigion, aelodau o’r teulu brenhinol a’r bobl leol hefyd, ac roedd hi’n cael ei hystyried yn noddwraig gelfyddydau yn yr ardal.
Nawr, mewn cyngerdd arbennig yng Nghastell Craig y Nos bydd cwmni Ffranc yn ail-greu un o gyngherddau arbennig Adelina, a hynny gyda pherfformiadau gan y soprano Elin Manahan Thomas, y soprano Rhian Lois, y tenor Robyn Lyn a’r chwaraewr soddgrwth adnabyddus Steffan Morris.
Mae cyfle i chi fod yn rhan o’r gynulleidfa yn y cyngerdd arbennig nos Fawrth 30 Gorffennaf.
Bydd y drysau yn agor am 18.00 pm a’r cyngerdd yn dechrau am 19.00 pm. Mae tocynnau am ddim ond rhai eu harchebu o flaen llaw drwy gysylltu â chwmni Ffranc – 07957 141568 / info@ffranc.com. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd felly cyntaf i’r felin.
Ac un peth arall pwysig i’w gofio… rhaid i bawb sy’n mynychu ar y noson wisgo gwisg Fictorianaidd!
Caiff y cyngerdd ei recordio a’i ddarlledu ar S4C dros gyfnod y Nadolig.
Llun: Elin Manahan Thomas