Mwy o Newyddion
Cyfle i bawb fwynhau sioe Nadolig Cyw
BYDD cyfle i blant a theuluoedd o bob cwr o’r wlad fwynhau sioe Nadolig Cyw eleni wrth iddi ymweld â 13 o leoliadau ledled Cymru.
Yn y sioe eleni – Nadolig Llawen Cyw – mae’r cymeriad pluog hoffus wedi cuddio anrhegion pawb yn rhywle, ond wedi anghofio ym mhle! Mae Dona Direidi, Ben Dant, Heulwen, Oli Odl a Huwi Stomp, yng nghwmni dau o gyflwynwyr Cyw yn mynd ati i geisio achub yr ŵyl.
Gyda digon o ganu a dawnsio bydd Nadolig Llawen Cyw yn siŵr o gyffroi pawb cyn y diwrnod mawr.
Cynhelir y daith rhwng dydd Iau 5 Rhagfyr a dydd Sadwrn 21 Rhagfyr mewn ysgolion uwchradd a theatrau ledled Cymru. Bydd tocynnau ar werth i bawb, felly gall aelodau o’r cyhoedd yn ogystal â grwpiau o ysgolion cynradd, meithrin a grwpiau chwarae fynychu perfformiad sy’n lleol iddyn nhw.
O fewn y tair wythnos bydd y sioe yn ymweld â Chaerdydd, Cwm Rhymni, Abertawe, Ystalyfera, Caerfyrddin, Aberteifi, Aberystwyth, Pontrhydfendigaid, Llangefni, Rhuthun, Y Bala, Pwllheli a Chaernarfon.
Mae tocynnau i’r holl sioeau ar werth o heddiw ymlaen arlein neu dros y ffôn. Maen nhw ar gael drwy wasanaethau bwcio Galeri Caernarfon (ag eithrio’r perfformiadau yn Theatr Taliesin, Abertawe sydd ar gael drwy’r theatr yn unig).
Meddai Garffild Lloyd Lewis, cyfarwyddwr cyfathrebu, marchnata a phartneriaethau S4C: “Mae’n braf cael cyhoeddi y bydd cyfle i fwy o blant a theuluoedd nag erioed fwynhau Sioe Nadolig Cyw eleni.
“O ystyried pa mor boblogaidd yw sioeau Cyw, rydym wedi comisiynu Mr Producer i roi cynllun at ei gilydd sy’n sicrhau y bydd cymaint â phosib o blant a theuluoedd yn medru gweld y perfformiadau. Drwy gynnal y sioeau mewn ysgolion a theatrau, bydd modd cadw costau’r sioe o fewn cyllideb sy’n adlewyrchu’r pwysau ariannol sydd ar S4C.”
Meddai Stifyn Parri, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Mr Producer a chynhyrchydd Sioe Nadolig Llawen Cyw: “Rydym yn falch iawn o’r cyfle i fynd ag enw da Cyw ac S4C ar daith ledled Cymru gyfan y Rhagfyr yma, a hynny i ystod ehangach o bobl nag y llynedd.
“Mae profiadau theatr yn gynnar mewn bywyd plentyn yn allweddol ac mae hi’n anrhydedd cael y cyfrifoldeb o gynnig sioe llawn dawns a chân, gyda’r cyfle i bob plentyn ymuno yn yr hwyl a chroesawu eu harwyr i’w hardal.
“Byddwch yn barod, mae Cyw yn dod i’ch ardal chi!”