Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Mawrth 2011

Cefnogwn Wedi Tri neu Wedi Mynd fydd hi!

“Ie, mae’n cael ei wneud yn Llanelli; ie, mae fy ngwraig yn gweithio ar y tîm. Ond nid dyna’r rheswm pam ddylwn gefnogi’r rhaglen. Mae teledu prynhawn erbyn hyn yn rhan o’n bywydau bob dydd. Mae’r gwylwyr yn ei ddymuno ac mae o fudd i’r Iaith.”

Dyna’r her a roddwyd gan Keith Davies, ymgeisydd Llafur yn Llanelli ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cymreig.

“Gwyddem ers tipyn bod y Glymblaid tan arweiniad y Ceidwadwyr yn San Steffan wedi tocio’r arian sydd ar gael i ddarlledu. Yr hyn sy’n dod yn fwyfwy eglur yw lle a phwy yn union sy’n dioddef y toriadau.

“Rhaglen cylchgrawn yn y prynhawn yw Wedi Tri ac mae’n achubiaeth i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi. Dyma unig raglen gymunedol sy’n fyw, a lle mae’r bobl sy’n gwylio yn medru cysylltu â nhw yn uniongyrchol.

“Mae Wedi Tri yn ddelfrydol ar gyfer teledu golau dydd. Nid ar gyfer criw bach o ddeallusion y ffurfiwyd S4C. Ymhlith eraill, un swyddogaeth yw datblygu darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn ganolog i fywyd bob dydd llawer o bobl. Dyna’r hyn mae Wedi Tri yn adlewyrchu.”

Llun: Keith Davies

Rhannu |