Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Gorffennaf 2013

Fe ddaw Sesiwn unwaith eto…

Ymhen pythefnos mi fydd hi’n ddechrau ar wyliau haf yr ysgolion, a gall hynny ond olygu un peth - ei bod hi’n bryd i fwrlwm y Sesiwn Fawr ddychwelyd i strydoedd a thafarndai Dolgellau. Mae tair blynedd ers i Sesiwn Fawr Dolgellau ddychwelyd i’w gwreiddiau gwerinol, ac erbyn hyn mae’r penwythnos wedi ail-sefydlu ei hun fel un o uchafbwyntiau calendr yr haf.

Cynhelir Sesiwn Fawr 2013 ar benwythnos 19-21 o Orffennaf, ac mae’r ŵyl yn cynnig rhywbeth i bawb. O gerddoriaeth gwerin a pop poblogaidd i glocsio a barddoni, yn ogystal â pherfformiadau byw ac unigryw o chwedlau lleol, mae’r arlwy yn un heb ei ail. Pris tocyn penwythnos yw £25, ac mae tocyn noson yn unig yn £15. Mae’r ŵyl wedi’i threfnu fel a ganlyn:

Am 7 o’r gloch ar nos Wener y 19eg yn Nhŷ Siamas, cynhelir gig go arbennig gan driawd teuluol, sef Steve Eaves, Lleuwen Steffan a Manon Steffan Ros. Er bod Manon wedi bod yn cyfansoddi caneuon ac yn canu cefndir efo’i thad a’i chwaer ers blynyddoedd bellach, dim ond yn ddiweddar iawn mae’r awdures a’r dramodydd wedi dechrau rhannu ei cherddoriaeth â’r byd dan yr enw Blodau Gwylltion. Ei chân newydd sbon Fy Mhader i yw trac yr wythnos ar raglen Dafydd a Caryl, BBC Radio Cymru'r wythnos hon.

Mi fydd adloniant y noson yn parhau yn iard gefn Gwesty’r Llong am 8.30 o’r gloch, a hynny yng nghwmni Georgia Ruth, H a’r Band a Chowbois Rhos Botwnnog. Mae pawb wedi bod yn canu clodydd Week of Pines, albwm cyntaf y delynores gwerin dalentog Georgia Ruth, a hynny ers iddi ryddhau’r CD ym mis Mai, ac mae Edward H Dafis wedi datgelu eu bod nhw’n perfformio gyda’i gilydd am y tro olaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Ceir amrywiol adloniant a gweithgareddau ar Sgwâr Dolgellau o 1 o’r gloch ymlaen ar y prynhawn Sadwrn, a hynny yn rhad ac am ddim. Os nad oes modd i chi fod gyda ni ar y diwrnod, mi fydd BBC Radio Cymru yn darlledu’n fyw o’r sgwâr.

Am y tro cyntaf erioed mi gynhelir sialens ‘Endiwroclog’, sef cystadleuaeth i farnu pwy sy’n gallu clocsio’r hiraf i gyfeiliant Morgan Rhys a’i delyn. Bydd gwobr arbennig yn disgwyl yr enillydd, ac mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb - nid yw techneg y dawnsio yn hollbwysig! Canol y prynhawn mi fydd gorymdaith Gwiber Coed y Moch a Dyn Gwyrdd y Gwernan drwy’r dref yng nghwmni Dawns i Bawb, a bydd llu o artistiaid, gan gynnwys y band o Bontypridd, Pesant’s King, yn perfformio ar lwyfan. Bydd modd gwlychu’r gweflau yng nghanol yr holl hwyl â chynnyrch Cwrw Llŷn, sydd newydd gyflwyno casgen newydd i’w casgliad, o’r enw'r Brawd Houdini.

Mae’r gig nos yn cychwyn am 7 o’r gloch yng nghefn Gwesty’r Llong, a hynny gan fand ifanc a phoblogaidd a sefydlwyd yn ardal Dolgellau, sef Sŵnami. Dilynir hwy gan neb llai na’r cantor Al Lewis, y band gwerin cyffrous Calan ac yna Ryland Teifi a Mendocino.

Cyn pen dim mi fydd hi’n ddydd Sul, ond ddim yn ddiwedd ar yr ŵyl eto. Erbyn 1 o’r gloch mi fydd hi’n bryd i bawb ddychwelyd i Dŷ Siamas ar gyfer Ymryson y Beirdd. Eurig Salisbury fydd Meuryn yr Ymryson, a’r timau yn cystadlu ar y diwrnod fydd tîm Meirionnydd, Llŷn a'r Cann. Bwriedir gosod testun ar y pryd i'r gynulleidfa, felly nid oes pallu ar yr hwyl! Ynghyd ag eraill, mi fydd Band Byw 2013 Gwobrau’r Selar, Y Bandana yn perfformio yn y Clwb Rygbi gyda’r nos, gan ddod â’r ŵyl i ben am flwyddyn arall.

Rhannu |