Mwy o Newyddion
Annog Llywodraeth Cymru i roi mwy o Gefnogaeth i Ddiwydiannau Creadigol Cynhenid
Mae ymgeisydd Plaid Cymru yn isetholiad Ynys Môn wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cwmnïau cynhenid yn y diwydiannau creadigol wedi darganfod y dyfarnwyd ymgyrch hybu werthfawr i werthu’r genedl i’r byd i gwmni Americanaidd.
Dengys ffigyrau a ryddhawyd dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth y dewiswyd Wieden + Kennedy, asiantaeth hysbysebu Americanaidd gyda swyddfeydd yn Llundain, i gynhyrchu tair hysbyseb teledu ar gost o bron i hanner miliwn o bunnoedd i Visit Wales.
Wedi cymryd rôl ‘datblygu creadigol a chyfeiriad creadigol’ yn y contract gwerth £438,921, is-gontractiodd Wieden + Kennedy y gwaith cynhyrchu i gwmni o’r enw Knucklehead sydd a’u pencadlys yn Llundain. Cafodd yr ôl-gynhyrchu fideo wedyn ei is-gontractio i gwmni Gorilla yng Nghaerdydd ac is-gontractiwyd yr ôl-gynhyrchu clyw i Cranc, cwmni arall o Gaerdydd.
Amcangyfrifodd rhywun o’r diwydiant na fyddai’r gwaith a is-gontractiwyd i’r ddau gwmni Cymreig wedi bod yn fwy na £50,000 rhyngddynt a’i fod “mae’n debyg dipyn yn is na hynny.”
Meddai’r cyswllt o’r diwydiant: “Mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn rhoi swyddi da o ansawdd uchel.
“Gyda llai o arian ar gael yn dilyn toriadau i S4C a darlledwyr eraill, dylai cwmnïau Cymreig gael cynnig mwy o’r math hwn o waith.
“Mae gan y diwydiant yng Nghymru record i fod yn falch ohoni.”
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, ymgeisydd Plaid Cymru yn isetholiad Ynys Môn: “Unwaith eto, mae’n ymddangos fod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu ein cwmnïau byd-enwog a chynhenid, gan ffafrio cwmnïau eraill. Ar hyd a lled Cymru, mae cwmnïau da iawn sydd yn fwy nac abl i gyflawni contract pwysig fel hwn.
“Mae amharodrwydd Llywodraeth Cymru i gefnogi cwmnïau cynhenid wedi ei ddangos eisoes eleni pan wnaethant ddewis cwmni Seisnig i wneud ffilm hyrwyddo, yn eironig ddigon, am ddiwydiannau creadigol Cymru. Dyma ni yn awr yn gweld eu bod wedi rhoi contract drudfawr iawn i gwmni Americanaidd heb hyd yn oed swyddfeydd yng Nghymru.
“Mae cwmnïau yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi dioddef dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd toriadau i S4C a darlledwyr eraill. Yn awr yn fwy nac erioed, mae arnynt angen cefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru yn y cyfnod anodd hwn.
“Dangosodd ffigyrau a gyhoeddwyd gan gwmni ymchwil Arad yn gynharach eleni fod pob punt a werir ar gynnwys sy’n deillio o gwmnïau annibynnol yng Nghymru wedi cynhyrchu cyfanswm effaith economaidd o £1.95 ar y diwydiannau creadigol Cymreig.
“Mae dyfarnu contractau mawr i gwmnïau y tu allan i Gymru felly yn newyddion drwg nid yn unig i’r diwydiannau creadigol ond mae’n newyddion drwg hefyd i economi Cymru yn gyffredinol.”
Dywedodd Mr ap Iorwerth, sydd wedi gweithio mewn llawer swydd yn y sector teledu annibynnol yng Nghymru yn ogystal â bod yn newyddiadurwr uchel ei barch yn y BBC mewn gyrfa ddarlledu o bron i 20 mlynedd: “Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau fod mwy o wariant y sector cyhoeddus yng Nghymru yn mynd i gwmnïau Cymreig. Synnwyr cyffredin yw hyn am fod ffigyrau o GwerthCymru yn awgrymu, am bob 1% o gynnydd yn ein caffael, y gellir creu hyd at ddwy fil o swyddi.
“Trwy geisio cyfateb i gyfraddau caffael uchel gwledydd fel Ffrainc a’r Almaen, byddai Plaid Cymru yn cymryd camau sylweddol i fynd i’r afael â chyfraddau diweithdra uchel a pherfformiad economaidd gwael Cymru o gymharu â gweddill y DG.
“Yn yr amseroedd economaidd caled hyn, mae pobl eisiau gwybod fod yr economi mewn dwylo da. Dyma’r math o sicrwydd a chamau y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gyflwyno i’r genedl gyfan gan mai ni yw’r unig blaid wleidyddol fydd yn wastad yn rhoi economi’r wlad yn gyntaf.”
Llun: Rhun ap Iorwerth