Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Gorffennaf 2013

Castell Cairew mewn cwmni da ymhlith prif atyniadau gwyliau Cymru

Yn ddiweddar, cafodd Castell Cairew ei enwi ymhlith 20 hoff atyniad gwyliau Cymru mewn arolwg barn gan WalesOnline, gan adeiladu ar enw da’r safle fel diwrnod allan sy’n hwyl i’r teulu cyfan.

Mae’r newyddion da yn achos arall i’r castell ddathlu, ag yntau wedi gweld cwblhau gwaith adnewyddu yn y gwanwyn ac wedi dathlu 30 mlynedd ers i’r safle ddod o dan reolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym mis Mai.

Meddai’r Rheolwr Dros Dro, Andrea Griffiths: “Rydyn ni’n hynod o falch fod Castell Cairew wedi cael ei enwi ymhlith yr atyniadau gwyliau gorau yng Nghymru ac yn hyderus y bydd y buddsoddiad diweddar a’r amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir yno yn fwy o reswm eto i bobl ymweld â’r safle arbennig hwn.

“Mae cael ein henwi yn y rhestr hon yn hwb sylweddol i ni wrth i ni baratoi i groesawu miloedd o bobl trwy’r giatiau dros yr haf, a gobeithiwn y bydd llwyddiant y castell hefyd yn dod â manteision pellach i’r economi lleol.”

Mae’r castell yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau bob blwyddyn gan gynnig cyfle i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau canoloesol ac i ddysgu mwy am hanes y safle sy’n ymestyn yn ôl dros 2,000 o flynyddoedd.

Ar 14 Gorffennaf 2013, fe fydd Castell Cairew yn croesawu Urdd Golegol Marchogion y Deml, gan gynnwys Saethyddion Breath of the Dragon. Fe fydd arddangosfeydd gwefreiddiol o gleddyfwriaeth a chyfle i weld saethyddion proffesiynol yn defnyddio’u bwâu hir traddodiadol fel yr oedd saethyddion gwreiddiol Cairew yn eu defnyddio yn y 1400au.

Mae’r safle hefyd yn gartref i’r unig felin heli wedi ei hadfer yng Nghymru ac mae’r gwaith adfer diweddar yn cynnwys gosod to newydd ar y Neuadd Fach a chreu Canolfan Ymwelwyr a siop newydd.

Yn ychwanegol at lwyddiant Castell Cairew yn yr arolwg barn, roedd tri o leoliadau Sir Benfro ymhlith arolwg barn y Western Mail a WalesOnline o’r cyrchfannau gwyliau gorau yng Nghymru, gyda Dinbych-y-pysgod yn cyrraedd y brig, Tyddewi’n drydydd a Saundersfoot yn nawfed.

Ychwanegodd Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, y Cynghorydd Mike James: “Mae ein Canolfannau Ymwelwyr a’n hatyniadau yn croesawu tua 250,000 o bobl y flwyddyn ac rydyn ni’n parhau i wella cyfleusterau ac i ymestyn ein rhaglen o ddigwyddiadau er mwyn cynyddu’r nifer hwn.

“Y Parc Cenedlaethol yw sylfaen ein heconomi twristiaeth lleol, sydd werth dros £500 miliwn ac sy’n cefnogi dros 16,000 o swyddi, gydag wyth o bob deg o ymwelwyr i’r sir yn dod yma ar eu gwyliau am fod gennym Barc Cenedlaethol.”


Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau yng Nghastell Cairew, rhowch glic ar www.carewcastle.com neu www.arfordirpenfro.org.uk

Rhannu |