Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Gorffennaf 2013

Cyfrannu at y gwaith o ailwampio cofeb Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc

Mae cofeb i filwyr Cymru yng ngogledd Ffrainc yn mynd i gael ei hailwampio ac mae Llywodraeth Cymru yn mynd i roi cymorth ariannol i’r gwaith.

Mae John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant, wedi cyhoeddi bod y gofeb i ddynion Adran 38 (Gymreig) Byddin Brydain a fu’n ymladd ym Mrwydr Coed Mametz yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn mynd i gael ei hailwampio, diolch i arian a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i Gangen De Cymru o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin.

Dywedodd John Griffiths: “Mae’r gofeb hon yn sefyll er cof am ddynion Adran 38 y Fyddin a fu’n brwydro yng Nghoed Mametz yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n anodd dychmygu beth yn union yr aeth y dynion yna drwyddo, ond rydyn ni'n gwybod gwnaethon nhw oddef caledi a dioddefaint mawr. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n parhau i’w cofio nhw ac anrhydeddu eu haberth.

“Mae’r wythnos hon yn nodi 97 o flynyddoedd ers y frwydr, a ymladdwyd dros 6 diwrnod ym mis Gorffennaf 1916, ac rydw i’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu Cangen De Cymru o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin i ailwampio’r gofeb hon.”

Mae’r gofeb yn sefyll ar gyrion pentref bach Mametz yn Picardy, ac yn edrych dros yr amcan y frwydr, y goedwig ei hunan. Roedd y frwydr yn rhan o Frwydr y Somme, un o frwydrau mwyaf y rhyfel ac un lle cafodd mwy na miliwn o filwyr, o gyfrif y ddwy ochr, eu lladd neu eu clwyfo. Fe gafodd 4,000 o ddynion Adran 38 eu lladd neu eu clwyfo ym Mrwydr Coed Mametz yn unig ac mae’r gofeb yn eu coffáu nhw a’u cyd-filwyr.

Dywedodd John Dixon, Cadeirydd Cangen De Cymru Cymdeithas Ffrynt y Gorllewin: “Yn y 26 mlynedd ers i’r Gangen godi’r gofeb, mae wedi dod yn nodwedd adnabyddus sy’n arwyddo maes brwydro’r Somme. Yn ystod y blynyddoedd hynny, mae wedi bod yn rhan o lwybr llawer sy’n ymweld â maes y frwydr, a phlant ysgol o Gymru yn eu plith.

“Mae cynnal a chadw’r gofeb wedi bod yn un o gyfrifoldebau’r Gangen, ac mae Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn gwneud unrhyw waith angenrheidiol ar ein rhan. Bydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r gwaith o ailwampio’r gofeb yn helpu i ddenu Cymry benbaladr am flynyddoedd lawer i ddod.”

Ychwanegodd y Gweinidog: “Bydd ein cefnogaeth ni, ynghyd â’r arian arall a godwyd gan Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin, yn golygu y caiff y gofeb ei hadnewyddu mewn pryd ar gyfer canmlwyddiant y frwydr yn 2016. Fe wnawn ni fwy o gyhoeddiadau am sut y bydd Cymru yn nodi canmlwyddiant digwyddiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn nes ymlaen eleni.”

Rhannu |