Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Gorffennaf 2013

Arloeswyr print yn anelu am Ddinbych ar ôl swyno Ewrop

Bydd arddangosfa gan artistiaid o Gymru sydd wedi swyno cynulleidfaoedd yn Ewrop i’w gweld yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych y mis nesaf.

Fe wnaeth y gwneuthurwr printiadau Eirian Llwyd, sy'n hanu o Ddinbych, helpu i guradu arddangosfa fawr gan wyth o wneuthurwyr printiadau o Gymru yn swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel ac adeilad y Senedd ym Mrwsel.

Yn awr mae'r arddangosfa, a oedd hefyd yn llwyddiant ysgubol yn Amsterdam, yn cael ei throsglwyddo i'r brif neuadd arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng yr 2il a'r 10fed o Awst.

Ac mae Eirian hefyd yn addo gwaith newydd cyffrous, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod, gan y gwneuthurwyr printiadau John Abell, Robert MacDonald a Megan Lloyd.

“Mae Megan hefyd yn storiwraig, felly rydym wedi gofyn iddi am brintiad newydd a fydd yn adrodd stori sy'n gysylltiedig â’r Eisteddfod,” meddai Eirian, sy’n wraig i gyn AC Ynys Môn a Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones.

Fe wnaeth wyth artist o Gymru arddangos eu gwaith yn Ewrop, sef John Abell, yr Athro David Carpanini, Paul Croft, Annie Giles Hobbs, Mary Lloyd Jones, Steffan Jones-Hughes, Robert MacDonald a Pete Williams.

Mae Eirian hefyd yn bwriadu cael gwasg ysgythru yn yr Eisteddfod. “Mae gan lawer o bobl ddiddordeb yn y ffordd y mae printiadau yn cael eu gwneud a bydd yn haws i ni egluro’r gwaith trwy gael yr offer yn y fan a’r lle.

“Gall fod yn broses eithaf heriol ac mae cael yr offer yno yn gwneud esbonio yn haws,” meddai.

Yn ei hymgyrch i roi printiadau o Gymru ar y map sefydlodd Eirian Y Lle Print Gwreiddiol / The Original Print Place, cwmni di-elw gyda’i chyd-artistiaid Jane Marchesi a Lauren Burgess, er mwyn hyrwyddo gwneud printiadau fel ffurf gelfyddydol o bwys a dechreuodd arni drwy werthu printiadau gwreiddiol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011.

“Fe wnaethon ni ddechrau go iawn ar ôl yr Eisteddfod 2010 yng Nglyn Ebwy. Fel mae’n digwydd mae gennym wneuthurwyr printiadau arbennig o dda yng Nghymru ond er hynny doedd neb yn arddangos yng Nglyn Ebwy felly fe wnaethon ni sefydlu cwmni di-elw fel ffordd o wneud yn siŵr fod gan creu printiadau bresenoldeb ar y Maes.

“Felly, dyma roi cychwyn ar bethau yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ac roeddem yn y Fro y llynedd. Hon yw ein trydedd flwyddyn ac mae pobl yn gwybod mai’r neuadd arddangos yw’r lle i fynd i weld ein gwaith.

“Mae pobl yn dechrau sylweddoli bod gwaith gan artistiaid nodedig yn fuddsoddiad da. Er enghraifft, bu Robert MacDonald yn dysgu Tracey Emin ar un adeg. Mae gwaith llawer wedi cael ei arddangos mewn orielau mawr.

“Y llynedd, roeddem yn gallu dilyn ein harddangosfa yn yr Eisteddfod gydag arddangosfeydd mewn wyth lleoliad ledled Cymru oherwydd y cysylltiadau yr oeddem wedi’u gwneud. Ar wahân i gael mwy o sylw yn llygad y cyhoedd mae hefyd yn gyfle i guraduron orielau weld y gwaith hefyd.

“Syniad arall cyffrous rydym yn ei ddatblygu yw cysylltu gyda gwestai mawr safon uchel er mwyn eu hannog i arddangos y gwaith. Mae gwesty pum seren Manorhaus yn Rhuthun yn mynd i arddangos printiadau ac mae gwestai eraill wedi dangos diddordeb.”

Mae Eirian, sy’n dod yn wreiddiol o Ddinbych ond sydd wedi byw ar Ynys Môn ers 1985, yn bwriadu cadw'r gwaith gaiff ei arddangos yn Ninbych gyda’i gilydd er mwyn llwyfannu  arddangosfeydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn Aberystwyth, Caerdydd a Wrecsam, a bydd y gwaith yn cael ei arddangos hefyd ym mis Medi yng Nghanolfan Ucheldre yng Nghaergybi.

Bydd Eirian, ar y cyd ag artistiaid eraill, yn agor drysau ei stiwdio breifat yn Llangefni yn rheolaidd, pan fydd yn cymryd rhan yn nigwyddiad Stiwdios ac Orielau Agored a drefnir gan Fforwm Gelf Ynys Môn.

Cafodd ei hyfforddi fel nyrs ac ymwelydd iechyd, ond bu hefyd yn dilyn cwrs celf rhan amser a phan newidiodd ei hamgylchiadau personol bu’n astudio amser llawn yng Nghaerdydd, lle graddiodd mewn celfyddyd gain o Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd yn 2001.

Llun: Eirian Llwyd

Rhannu |