Mwy o Newyddion
Gadael yr Undeb Ewropeaidd
Byddai mwy o boblogaeth Cymru yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd petai pleidlais ar y mater na fyddai’n pleidleisio i aros, yn ôl ein pôl piniwn diweddaraf ar gyfer y Western Mail.
Dywedodd bron bedwar allan o bob deg oedolyn oedran 18+ (37%) petai refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd, y byddent yn pleidleisio i DU i adael.
Dywedodd llai - tua thri ym mhob deg (29%) - y byddent yn pleidleisio i DU barhau yn yr Undeb Ewropeaidd, tra dywedodd y gweddill na fyddent yn pleidleisio (21%) neu yn ansicr (14%).
Gofynnwyd i oedolion 988 oedran 18 a throsodd led led Cymru “Petai refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd, sut fyddech yn pleidleisio?” yn ystod y don ddiweddaraf o arolwg Omnibws Cymru gan Beaufort, a gynhaliwyd ym Mehefin.
Roedd y darlun yn gymharol gyson ar draws Cymru, gyda mwy yn dweud y byddent yn pleidleisio i adael na ddywedodd y byddent yn pleidleisio i barhau yn yr Undeb Ewropeaidd a hynny ar draws yr holl ranbarthau, gyda’r rheiny yn y Cymoedd fwyaf tebygol i bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd (44%).
Er mai'r ymatebwyr iau (18 i 34) oedd y mwyaf tebygol i beidio pleidleisio (29%), i gymharu gyda'u cyfatebwyr hŷn a oedd yn fwy tebygol o bleidleisio i’r DU i barhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd (32%) na gadael (23%).
Roedd hefyd gwahaniaethau amlwg ym mwriadau pleidleisio mewn grwpiau economaidd cymdeithasol. Roedd y rheiny o grwpiau is economaidd gymdeithasol yn fwy tebygol i bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd nac o blaid parhau’n aelod, tra roedd y rheiny oedd yn hanu o grwpiau economaidd cymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddatgan eu blaenoriaeth i barhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.