Mwy o Newyddion
12 Gorffennaf 2013
Urddo Prifweithredwr Adnoddau Naturiol Cymru Dr Emyr Roberts yn Gymrawd
Cafodd Prifweithredwr Adnoddau Naturiol Cymru, Dr Emyr Roberts, ei urddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystywth ddydd Iau.
Yn wreiddiol o Ynys Môn, enillodd Dr Roberts ei radd gyntaf ym Mhrifysgol Reading cyn cwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cafodd ei gyflwyno gan yr Athro Neil Glasser, Cyfarwyddwr yr Athrofa Daearyddiaeth, Hanes a Gwleidyddiaeth.
Ymunodd Dr Roberts â’r Swyddfa Gymreig yn 1991. Ar ôl dal swyddi ym meysydd iechyd a diwylliant, cafodd ei ddyrchafu i’r Uwch Wasanaeth Sifil a daeth yn Brif Weithredwr ar Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn 1997.
Rhwng 2005 a 2012 daliodd swyddi amrywiol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn ddiweddar gyda Llywodraeth Cymru.
Ers Tachwedd 2012 ef yw Prif Weithredwr cyntaf Cyfoeth Naturiol Cymru.