Mwy o Newyddion
Croesawu penderfyniad Prifysgol Rhydychen i gynnig cymorth i fyfyrwyr incwm isel o Gymru
Mae Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi croesawu penderfyniad Prifysgol Rhydychen i gynnig gostyngiad mewn ffioedd i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru ac sy’n dod o deuluoedd incwm isel.
Yn dilyn pwysau gan Lywodraeth Cymru, mae’r Brifysgol wedi tynnu’n ôl y penderfyniad i beidio â chynnig gostyngiad mewn ffioedd oherwydd y pecyn ariannol hael sy’n cael ei gynnig i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru.
Bydd y Brifysgol yn newid ei pholisi, gan edrych yn ôl ar y flwyddyn academaidd bresennol, a bydd y gostyngiad yn berthnasol o ddechrau blwyddyn academaidd 2012/13.
Dywedodd Huw Lewis: “Mae hwn yn newyddion gwych i fyfyrwyr sydd ag uchelgais i astudio yn un o’r sefydliadau mwyaf uchel ei barch yn y byd.
“Dw i’n croesawu’n fawr benderfyniad y Brifysgol i newid ei hagwedd fel nad yw’n ystyried y cymorth at ffioedd dysgu sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru wrth benderfynu a dylid cynnig gostyngiad mewn ffioedd i fyfyrwyr incwm isel.
“Dw i’n credu mai dyma’r agwedd iawn ac mae’n adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu cymorth ariannol hael i fyfyrwyr sy’n dod o gefndir incwm isel.
“Dyma enghraifft arall o Lywodraeth Cymru yn sefyll i fyny dros ein myfyrwyr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw pan fyddan nhw’n mynd i ymlaen i Addysg Uwch.”
Dywedodd Paul Murphy AS, sy’n Llysgennad dros Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt yng Nghymru: “Gall cyllid a chymorth ariannol fod yn dipyn o anhawster wrth ystyried dyfodol mewn Addysg Uwch. Mae hyn yn aml yn waeth yn achos teuluoedd incwm isel.
“Fel hyrwyddwyr dros fyfyrwyr o Gymru sy’n gobeithio cael lle ym Mhrifysgol Rhydychen, dw i wrth fy modd bod y Brifysgol wedi gwneud y penderfyniad hwn.”
Llun: Huw Lewis