Mwy o Newyddion
Diwrnod hanesyddol o ran rhoi organau yng Nghymru
Cafodd Bil nodedig ei lansio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i newid y system o roi organau yng Nghymru yr wythnos yma.
Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system feddal o optio allan o roi organau.
Mae system feddal o optio allan yn golygu y cymerir yn ganiataol fod unigolyn wedi rhoi ei ganiatâd i roi organau oni bai ei fod wedi datgan ei ddymuniad i fod yn rhoddwr (optio i mewn) neu i beidio â bod yn rhoddwr (optio allan).
Yn ddiamau, Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) yw’r darn o ddeddfwriaeth mwyaf arwyddocaol i gael ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ers iddo gael pwerau deddfu ychwanegol yn 2011.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: “Mae hwn yn ddiwrnod enfawr i Gymru, i ddatganoli, ac yn bwysicach fyth, i’r 226 o bobl yng Nghymru sy’n aros am drawsblaniad.
“Dylai pobl Cymru ymfalchïo yn y ffaith mai ni yw’r wlad gyntaf yn y DU i gymryd y cam hwn.
“Fel cymdeithas, rydyn ni wedi dangos nad ydym yn fodlon goddef yn wythnosol farwolaeth unigolyn sy’n aros am drawsblaniad pan allwn wneud rhagor i gynyddu nifer y rhoddwyr organau.
“Mae gwrthwynebiad y teulu yn ffactor bwysig sy’n effeithio ar niferoedd y rhoddwyr organau a’r prif reswm dros wrthod yw diffyg gwybodaeth o ddymuniadau eu hanwyliaid.
“Mae gan deulu’r rhoddwr posib rôl bwysig i’w chwarae o ran rhoi organau.
Nod y Bil yw parchu dymuniadau’r sawl a fu farw, ond gall perthnasau neu ffrindiau oes wrthwynebu caniatâd tybiedig ar sail yr hyn y maent yn ei wybod am farn y sawl a fu farw.
“Pan fydd aelodau’r teulu’n gwybod y byddai’r unigolyn am roi ei organau, yna fel arfer byddant yn cytuno i’r broses rhoi organau. Bydd y ddeddf newydd yn rhoi eglurhad ar gyfer dymuniadau pobl ar fater rhoi organau ac, yn ei dro, yn cynyddu nifer y rhai sy’n rhoi caniatâd i roi eu horganau.
“Mae heddiw’n ddiwrnod nodedig i Gymru, ac rwy’n disgwyl y bydd gweddill y DU yn gwylio â diddordeb mawr pan gaiff y ddeddfwriaeth ei gweithredu yn 2015.”
Llun: Mark Drakeford