Mwy o Newyddion
Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru’n ennill gwobr arbennig yr UE
Mae Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru, a gadeirir ac a gynhelir gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, wedi derbyn gwobr arbennig yr UE gan Bartneriaeth Arloesedd Ewropeaidd ar Heneiddio'n Egnïol ac Iach ym Mrwsel.
Derbyniodd Heneiddio’n Dda yng Nghymru Wobr Tair Seren i gydnabod dull gweithredu arloesol Cymru tuag at heneiddio’n iach, sy’n cefnogi pobl i gadw’n iach, yn hapus ac yn annibynnol wrth iddynt heneiddio.
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira: “Mae’n bleser gennyf Gadeirio a chynnal y rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru ac rwy’n falch iawn o weld bod ein gwaith yng Nghymru’n cael ei gydnabod ar lefel Ewropeaidd.
“Mae cael gwobr Statws Safle Cyfeirio Tair Seren gan y Bartneriaeth Arloesedd Ewropeaidd yn llwyddiant anhygoel i Gymru, a hynny ar gyfer ein gwaith yn sicrhau bod pobl hŷn yn gallu byw bywydau hapus ac annibynnol wrth iddynt heneiddio.
Nod y rhaglen, sy’n bartneriaeth gydweithredol pum mlynedd rhwng Llywodraeth Leol, y GIG yng Nghymru, Iechyd Cyhoeddus, y Trydydd Sector, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill, yw sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru’n gallu bodloni anghenion pobl, wrth i nifer y bobl hŷn yng Nghymru barhau i gynyddu, a hynny wrth herio'r dybiaeth anghywir bod dibyniaeth a bod yn eiddil yn ganlyniadau anochel heneiddio.
Dywedodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwy’n falch iawn bod y rhaglen Heneiddio’n Dda wedi cael ei chydnabod â’r wobr hon yn Ewrop.
“Diolch i’n strategaeth ar gyfer pobl hŷn, sydd bellach yn ei thrydedd cam, mae Cymru’n cael ei hystyried fel arweinydd blaenllaw o ran oedran a heneiddio. Pwysleisir hyn gan y ffaith bod y rhaglen Heneiddio’n Dda wedi cael ei chydnabod fel Enghraifft o Safle Cyfeirio Tair Seren mewn rhaglen gan yr UE sydd mor uchel ei phroffil.
“Mae hyn yn golygu bod Heneiddio’n Dda yn cael ei gweld fel un o’r rhaglenni gorau yn Ewrop, a bydd hyn yn helpu i sicrhau arian Ewropeaidd i Gymru yn y dyfodol.”
Bydd y wobr yn caniatáu i Gymru gael cyllid Ewropeaidd, a ddefnyddir i gefnogi gwelliannau ymarferol a sylweddol i gefnogi pobl hŷn, fel cymunedau sy’n cefnogi pobl â dementia a chyfeillgar i oedran, a chanolfannau lles.
Ychwanegodd Sarah Rochira: “Roedd Cymru’n un o’r ychydig o ymgeiswyr a dderbyniodd y wobr Tair Seren, ac mae hyn o ganlyniad i waith partneriaeth gwirioneddol ac effeithiol ar ran pobl hŷn ledled Cymru.
“Rwy’n gwybod bod yr holl gyrff a sefydliadau sydd ynghlwm â’r Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru’n rhannu fy nod i sicrhau bod Cymru’n lle da i dyfu’n hŷn i bawb, ac maen nhw'n awyddus i ddatblygu'r llwyddiant hwn er mwyn i Gymru ddal ati i arwain y ffordd wrth gefnogi pobl hŷn i gadw'n iach a heneiddio'n dda."