Mwy o Newyddion
Galw am gydweithredu aml-asiantaethol yn y gofal i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Bethan Jenkins AC, wedi galw am fwy o gydweithredu amlasiantaethol er mwyn gwneud yn siŵr fod cyn-filwyr yng Nghymru yn cael y gofal gorau.
Wrth siarad wedi Diwrnod y Lluoedd Arfog, dywedodd Bethan Jenkins ei bod yn pryderu am baratoadau i ymdrin â diswyddiadau o’r 2il Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig pan ddiddymir y gatrawd yn y dyfodol agos.
Rhybuddiodd na fyddai cyn-filwyr fyddai angen cefnogaeth wrth ddychwelyd i fywyd fel sifiliaid yn gwahaniaethu rhwng gwasanaethau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau nas datganolwyd, ac y byddai siopau pob-dim fel y rhai a redir gan Lywodraeth yr Alban yn cyfeirio’n well at wasanaethau ac yn trefnu cefnogaeth i gyn-filwyr.
Meddai Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Bethan Jenkins AC: “Does neb yn dweud fod problemau cyn-filwyr yn rhai hawdd i’w trin, ond mae gennym gyfrifoldeb i’r sawl sy’n ymuno â’r lluoedd arfog i ofalu amdanynt pan fyddant yn dychwelyd.
“Llynedd, ar waethaf ymgyrch drawsbleidiol lwyddiannus i achub Gwarchodlu Dragŵns y Frenhines, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y buasent yn cyfuno’r ddwy fataliwn Gymreig trwy ddiddymu’r ail Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
“Mae’r elusen Gymreig i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog, Healing the Wounds, yn poeni y gwelwn gynnydd sydyn arall mewn achosion i’w trin wrth i gyn-filwyr ddod adref a gweld nad oes fawr ddim gwaith ar gael sy’n addas i’w sgiliau hwy.
“Ymysg y problemau mae dod o hyd i gartref addas, gwaith a chefnogaeth iechyd.
“Cred Plaid Cymru fod angen agwedd amlasiantaethol er mwyn trin y materion all godi o’r diswyddiadau hyn.
“Mae’n rhy hawdd o lawer rhannu bai rhwng Llywodraeth San Steffan yn gwneud toriadau a Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym nad yw rhai gwasanaethau wedi eu datganoli ac nad ydynt felly yn gyfrifoldeb iddynt.
“Lle mae materion wedi eu datganoli, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud eu gorau, a lle nad ydynt wedi eu datganoli, yna rhaid iddynt weithio’n agos gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau’r arferion gorau a rhoi cefnogaeth lawn.
“Mater trawsbleidiol yw hwn y mae’n rhaid ei ddatrys trwy gonsensws.
“Dyna pam ein bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru oruchwylio agwedd amlasiantaethol at y diswyddiadau hyn, gan sicrhau agwedd drefnus a chydlynus at gymhathu ein cyn-filwyr i fywyd fel sifiliaid eto.
“Yn y gorffennol, mae Plaid Cymru wedi cyfeirio at y siopau-pob-dim Albanaidd am wasanaethau i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog, sydd yn cyfeirio pobl at wasanaethau ac yn gofalu fod modd ateb yr holl gwestiynau heb orfod mynd o un gwasanaeth i’r llall, ac ail-ddweud eu stori dro ar ôl tro.
“Rhaid ystyried cwestiynau ehangach hefyd – gan gynnwys pam nad yw cymwysterau’r lluoedd arfog yn drosglwyddadwy, a gweithio gyda busnesau lleol iddynt hwy gyflogi cyn-filwyr a rhoi profiad gwaith gwerthfawr iddynt.”