Mwy o Newyddion
Croesawu tro pedol ar gymorth cyfreithiol
Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd AS, wedi croesawu tro-pedol y Gweinidog Cyfiawnder Chris Grayling ar un agwedd o gynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer diwygio cymorth cyfreithiol, ond ychwanegodd fod llawer o waith i'w wneud er mwyn rhoi stop ar y newidiadau niweidiol.
Mewn datganiad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, awgrymodd Mr Grayling na fyddai ei adran yn gwadu amddiffynyddion yr hawl i ddewis eu cyfreithiwr - un o agweddau mwyaf dadleuol y cynlluniau diwygio.
Dywedodd Mr Llwyd, sydd wedi gwrthwynebu'r cynlluniau o'r cychwyn, ei fod yn gobeithio mai dyma'r cyntaf mewn cyfres o newidiadau i argymhellion fydd, ar eu ffurf bresennol, yn arwain at 'miscarriages of justice' ac yn cyfyngu ar argaeledd cyngor ac arweiniad, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Wrth siarad yn dilyn cyhoeddiad Mr Grayling, dywedodd Elfyn Llwyd: "Mae cylluniau'r Llywodraeth ar gyfer diwygio cymorth cyfreithiol yn peri bygythiad difrifol i ddyfodol cyfiawnder yn y DG.
"Un agwedd sydd wedi achosi cryn bryder yw'r un dan sylw yma, sef cael gwared ar hawl y cleient i ddewis eu cynrychiolaeth gyfreithiol.
"Wrth drafod y newidiadau fel aelod o'r Pwyllgor Cyfiawnder, dyma un o'r prif bwyntiau oedd, yn ein tyb ni, yn anymarferol ac o bosib y gellid ei herio'n gyfreithiol.
"Rwyf felly'n croesawu'r tro pedol hwn, ond mae angen adolygu'r cynllun cyfan ar ei ffurf bresennol.
"Rwy'n gobeithio mai dyma'r cyntaf mewn cyfres o newidiadau a fydd yn cadarnhau fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi rhoi dwys ystyriaeth i'r mwy na 16,000 o ddogfennau tystiolaeth a anfonwyd i'r ymgynghoriad ar y cynlluniau niweidiol hyn."