Mwy o Newyddion
Gwersi i Gymru o lwyddiant economaidd Gwlad y Basg
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC, a Jill Evans ASE wedi ymweld â menter gydweithredol enwog Mondragon yng Ngwlad y Basg.
Sefydlwyd Mondragon ym 1956; hi yw ffederasiwn fwyaf y byd o fentrau cydweithredol gweithwyr.
Mae Plaid Cymru wedi amlygu’r potensial i economi Cymru o feithrin cwmnïau sydd mewn dwylo lleol ac yn cael eu rhedeg yn lleol. Mae Cynllun C y blaid yn rhoi manylion am sut i greu swyddi cynaliadwy trwy fabwysiadu agwedd genedlaethol fentrus a chreadigol.
Mae economi Gwlad y Basg yn stori llwyddiant i genedl fechan sydd â phoblogaeth debyg i Gymru. Er bod yr argyfwng ariannol wedi effeithio arni, mae’n gwneud yn well, er hynny, oherwydd ei pholisïau economaidd a’i hannibyniaeth gyllidol. Er enghraifft, mae’r gyfradd ddiweithdra yn Sbaen gyfan yn 27.2% ond yng Ngwlad y Basg, mae’n 13.8%. Mae ei GDP y pen 40% yn uwch na’r hyn ydyw yn yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Leanne Wood AC: “O ddechreuadau bach, tyfodd corfforaeth Mondragon i fod yn bwerdy economaidd i Wlad y Basg. Mae wedi dangos beth mae modd ei wneud gydag uchelgais, cydweithredu a buddsoddi yn yr hyn sydd bwysicaf.
“Chwaraeodd eu llwyddiant ran sylweddol yn cynyddu cyfoeth a ffyniant y rhanbarth, a sicrhau nad yw problemau diweithdra yn mynd yn rhy ddifrifol. Mae’n amlwg y gallwn ddysgu llawer yng Nghymru o arweiniad corfforaeth Mondragon o ran creu gwaith a darparu addysg i ddegau o filoedd o bobl.
“Mae llenyddiaeth ar gorfforaeth Mondragon wedi dylanwadu ar beth o’r meddylfryd yn nogfen bolisi Plaid Cymru ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd.’ Roedd yn wych i gyfarfod y bobl allweddol ac, o’r diwedd, i weld y gorfforaeth ar waith.”
Ychwanegodd ASE y Blaid, Jill Evans: “Adfywio economi Cymru yw ein prif flaenoriaeth. I wneud hynny, mae angen i ni edrych ar lwyddiannau cenhedloedd eraill yn Ewrop.
“Mae gan Wlad y Basg reolaeth dros drethi; nid yw hyn gan Gymru eto, ond serch hynny, mae’n enghraifft dda o’r hyn y gellir ei wneud i drawsnewid economi gwlad fechan.
“Ryn ni wedi cyfarfod y bobl allweddol i drafod eu llwyddiant economaidd a chlywed pa wersi y gallwn ddysgu o hynny.
"Roedd yr hanes am sut y tyfodd Mondragon i fenter gydweithredol fwyaf y byd sydd yn cyflogi dros 80,000 o weithwyr mewn 256 cwmni o ddiddordeb mawr i ni. Rydym yn gweld mentrau cydweithredol yn chwarae rhan hanfodol yn adeiladu’r economi yng Nghymru.
“Mae gennym rwydwaith eisoes o fentrau cymdeithasol sy’n cael eu rhedeg yn gymunedol, a hanes o gydweithredu.
“Dyna un o’r rhesymau pam fy mod yn ymgyrchu i gael Canolfan yr Undeb Ewropeaidd Perchenogaeth Gweithwyr wedi ei leoli yng Nghymru. Rwyf yn falch iawn gyda’r gefnogaeth gref a gefais eisoes i’r cais hwn, ac yr wyf yn sicr y gallwn wneud achos cryf iawn."
Llun: Leanne Wood