Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Gorffennaf 2013

Llais ar gyfer pobl hŷn

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, wedi lansio ei hadroddiad Effaith a Chyrhaeddiad cyntaf, 'Sefyll a Siarad dros Bobl Hŷn', sy'n tynnu sylw at y camau y mae wedi'u cymryd ers iddi ddechrau yn y swydd ym mis Mehefin 2012 tan fis Mawrth 2013, ei naw mis cyntaf fel Comisiynydd, er mwyn sicrhau’r newid y mae pobl hŷn wedi dweud wrthi y mae arnynt ei eisiau a’i angen.  

Lansiwyd yr adroddiad yn y Senedd, a daeth dros 140 o bobl hŷn o bob cwr o Gymru yno - pobl y mae’r Comisiynydd a’i thîm wedi cwrdd â hwy fel rhan o’r Sioe Deithiol Ymgysylltu, yn ogystal â gwleidyddion a rhanddeiliaid allweddol.  Fel rhan o’r lansiad, roedd pobl hŷn yn gallu holi’r Comisiynydd am ei gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a’i blaenoriaethau a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Sarah Rochira: “Mae wedi bod yn fraint cynrychioli pobl hŷn ledled Cymru ers i mi ddechrau yn y swydd fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru y llynedd.  Maen nhw wedi bod yn garedig yn rhannu eu bywydau â mi ac maen nhw hefyd wedi fy ysbrydoli i ac wedi fy herio i.

“Fe wnes i addo o’r diwrnod cyntaf y byddwn i’n llais ac yn hyrwyddwr annibynnol ar gyfer pobl hŷn, yn sefyll ac yn siarad drostyn nhw ac yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau, ac mae fy adroddiad 'Sefyll a Siarad dros Bobl Hŷn' yn amlinellu'r amrywiaeth eang o waith rwyf wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn cyflawni hyn.

Ychwanegodd Sarah Rochira: “Mae cymaint i’w ddathlu am fynd yn hŷn yng Nghymru, ond mae llawer o bethau i’w gwneud o hyd hefyd.  Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu'r gwaith sy'n cael sylw yn y ddogfen 'Sefyll a Siarad Dros Bobl Hŷn' a pharhau i weithio gyda phobl hŷn ledled Cymru i wneud yn siŵr bod Cymru'n lle da i heneiddio - nid dim ond i ambell un, ond i bawb.”  

Rhannu |