Mwy o Newyddion
Cymru ar y blaen wrth fynd i’r afael â digartrefedd
Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant, wedi pennu cynnydd Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru mewn araith yng Nghynhadledd Shelter Cymru heddiw.
Dywedodd fod llawer i’w wneud o hyd, ac yn arbennig o ystyried holl doriadau lles Llywodraeth y DU, ond roedd hefyd yn awyddus i dynnu sylw at ystadegau diweddar sy’n dangos cynnydd Cymru.
Dywedodd: “Yn ystod 2012-13 lleihaodd nifer yr aelwydydd a dderbynnir fel rhai digartref 11 y cant yng Nghymru o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Bu cynnydd o 6 y cant yn ystod yr un cyfnod yn Lloegr.
"Yng Nghymru roedd llai o aelwydydd a dderbynnir fel rhai digartref ymhob chwarter o 2012-13 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac yn Lloegr roedd nifer y derbyniadau yn uwch ymhob chwarter o 2012-13 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
"Yng Nghymru roedd nifer yr aelwydydd digartref a roddwyd mewn llety dros dro hefyd yn is ar ddiwedd 2012-13, gyda 9% yn is nag ar ddiwedd 2011-12 a 4% yn is nag ar ddiwedd 2010-11. Yn Lloegr, fodd bynnag, roedd nifer yr aelwydydd mewn llety dros dro ar ddiwedd 2012-13 10% yn uwch nag oedd ar ddiwedd 2011-12 a 15% yn uwch nag oedd ar ddiwedd 2010-11.
"Roedd llai o ddefnydd o lety gwely a brecwast dros dro ar draws Cymru ar ddiwedd 2012-13. Roedd 300 o aelwydydd mewn llety gwely a brecwast ar ddiwedd mis Mawrth 2013, a oedd 4% yn is nag ar ddiwedd mis Mawrth 2010, ac roedd 6% o’r rhain (20 o aelwydydd) yn aelwydydd â phlant.
"Yn Lloegr gwnaeth y defnydd o lety gwely a brecwast dros dro gynyddu ar ddiwedd 2012-13, ac roedd 4,500 o aelwydydd mewn llety gwely a brecwast ar ddiwedd mis Mawrth 2013. Mae’r ffigur hwn 14% yn uwch nag oedd ar ddiwedd mis Mawrth 2012 ac roedd 44% o’r aelwydydd (1,970) yn aelwydydd â phlant.
“Rydym hefyd yn cyflawni cryn gynnydd ynghylch y Papur Gwyn Tai a’r Bil Tai a fydd yn cynnwys y newidiadau mwyaf blaengar i ddeddfwriaeth ynghylch digartrefedd ers yr 1970au.”
Roedd y Gweinidog hefyd yn awyddus i ailbwysleisio ei ymrwymiad i gynyddu’r cyflenwad o dai, gan liniaru effeithiau’r diwygiadau lles a chydweithio’n agos ag Awdurdodau Lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n parhau i gyflawni wrth fynd i’r afael â digartrefedd ynghyd â’i achosion.