Mwy o Newyddion
Gweinidog yn cyhoeddi £2 filiwn i ddarparu tai i gyn-filwyr
Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant, wedi addo heddiw y bydd yn rhoi £2 filiwn i helpu i ddarparu tai i bersonél sy’n gadael y lluoedd arfog.
Bydd union fanylion dyrannu’r cyllid hwn yn cael ei drafod drwy ymgynghori â’r awdurdodau lleol, darparwyr tai, a chynrychiolwyr y lluoedd arfog dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd y Gweinidog: “Rwy’n falch cael datgan y bydd y cyllid hwn ar gael, ac mae’n briodol iawn ein bod yn cyhoeddi hyn ar ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Rwyf i a Llywodraeth Cymru yn cydnabod cyfraniad hollbwysig y lluoedd arfog wrth wasanaethu dros ein gwlad a dylai’r arian hwn ein galluogi i ddarparu tai gwell iddynt yma yng Nghymru.
“Wrth i mi siarad gyda nifer o aelodau’r lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd, daeth yn amlwg bod llawer ohonynt yn cael anhawster cael hyd i lety addas a fforddiadwy a’i bod yn anodd iddynt gael cyngor am dai hefyd. Bydd yr arian hwn yn helpu gyda hyn.
“Rydym yn ystyried nifer o opsiynau cyllido, gan gynnwys targedu cymorth at y personél a fu’n rhan o’r rownd ddiswyddiadau ddiwethaf. Rwy’n gobeithio gallu cyhoeddi rhagor o fanylion cyn bo hir.”
Dywedodd Phil Jones, Rheolwr y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru: “Mae’r Lleng Brydeinig yn croesawu’r cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru am y cyllid ychwanegol i ddiwallu anghenion y rhai sy’n gadael y Lluoedd Arfog. Diffyg tai sy’n achosi llawr iawn o anghenion lles Lluoedd Arfog Cymru a rhaid canmol Llywodraeth Cymru am gymryd y cam hwn.
“Mae’n hanfodol bod y rhai sydd wedi gwasanaethu eu gwlad yn gallu cael cartref addas pan fyddant yn dod nôl adref neu’n gadael y Lluoedd Arfog. Mae Cyfamodau Cymuned y Lluoedd Arfog yn ffordd bwysig i ddarparwyr tai archwilio’u polisïau a sicrhau nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais oherwydd eu swyddi.”