Mwy o Newyddion
Comisiynydd yn croesawu cyhoeddiad am garchar newydd
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Winston Roddick wedi ymateb i gyhoeddiad gan lywodraeth y DU y bydd carchar £250m yn cael ei adeiladu yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Mr Roddick: “Mae hyn yn newyddion da iawn i ogledd Cymru am sawl rheswm. Mae’n newydd arbennig o dda i bobl ac economi gogledd Cymru a bydd yn gwella gweinyddiad cyfiawnder yng ngogledd Cymru
“Bydd yr economi lleol yn cael hwb sylweddol yn sgil y prosiect yma. Bydd y cyfnod adeiladu yn dod â chyfleoedd gwaith a busnes, ac yn dilyn hynny bydd bodolaeth y carchar yn cynnig llawer o gyfloedd gyrfaol ar gyfer pobl ifanc yr ardal.
“Bydd carchar newydd yng ngogledd Cymru hefyd yn cyfrannu at adferiad troseddwyr gan y byddan nhw’n agosach at eu teuluoedd, y gwasanaeth prawf a’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid.
“Dylid llongyfarch pawb sydd wedi cefnogi’r ymgyrch i sicrhau carchar newydd i ogledd Cymru.”