Mwy o Newyddion
Gwobr Brydeinig i Dŷ Llety ym Mlaenau Ffestiniog
Enillodd Bryn Elltyd, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog wobr darparwr llety bach y flwyddyn yng ngwobrau Considerate Hoteliers Awards y DU y mis hwn.
Mae Bryn Elltyd yn dŷ llety ecogyfeillgar adnabyddus sy'n cynnig llety cysurus, tawel â chyfleusterau modern gan gynnwys ystafell sychu/sawna, mynediad at Wi-Fi a theledu lloeren, a'r cyfan yn cael ei ddarparu gyda'r effaith lleiaf posibl ar yr amgylchedd.
Prynodd y perchnogion, John a Ceilia, Bryn Elltyd yn 2007 fel busnes 'gwyrdd' a oedd eisoes wedi'i sefydlu. Maent wedi parhau i ddatblygu'r eiddo â phwyslais ar arbed ynni a'r defnydd o dechnoleg ynni adnewyddadwy
Meddai John Whitehead: "Mae cael ein llwyddiannau wedi’u cydnabod yn genedlaethol yn wych i Gymru.
"Mae Gwobrau Gwestywyr Ystyriol yn hyrwyddo cynaliadwyedd boed yng Ngwesty’r Savoy neu ein busnes bach 6 gwely.
"Nid yw penderfyniadau Eco yn unig yn dda i'r blaned, ond yn prysur ddod yn rhan hanfodol o gynllunio busnes.
"Nid yw ein busnes yn rhywbeth y gwelwch chi ar “Grand Designs”, ond y maent yn addasiad araf o dŷ a godwyd yn 1883.
"Rydym wedi cael paneli solar ers 1983 ac wedi 20 mlynedd O ddysgu lefel 'A' mewn technoleg, mae’r Gwesty yn estyniad naturiol o’n syniadau.
"Rydym yn galluogi gwesteion i brofi gwesty Cymreig o safon, wrth droedio'n ysgafn ar yr amgylchedd."
Disgrifiodd y beirniaid y tŷ llety ecogyfeillgar hwn fel: "Enghraifft berffaith o gynaliadwyedd wrth droed yr Wyddfa. Rhaid ei weld â'ch llygaid eich hunain! Pan fyddwch yn y cyffiniau, galwch heibio i weld yr hyn y mae John a Ceilia Whitehead wedi'i gyflawni yn ystod eu 6 mlynedd o berchnogaeth."
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart: “Hoffwn longyfarch John a Celia Whitehead ar ennill y wobr hon.
"Mae cynaliadwyedd yn thema allweddol yn y Strategaeth newydd ar gyfer Twristiaeth – Partneriaeth ar gyfer Twf – a lansiwyd yn ystod y mis.
"Ein gweledigaeth yw i gynaliadwyedd amgylcheddol fod yn rhan annatod o'n gwaith, ac rydym am weld Cymru'n cael enw da am arwain yn y maes.
"Mae busnesau fel Bryn Elltyd eisoes yn arwain y ffordd."
Mae'r tŷ gwreiddiol yn dyddio o 1883 ond mae wedi'i estyn a'i addasu i gynnwys technolegau ynni adnewyddadwy a nodweddion amgylcheddol.
Mae John a Ceilia wedi rhoi sylw penodol i inswleiddio'r adeilad er mwyn colli cyn lleied o wres ag sy'n bosibl, yn ogystal â dal y gwres sy'n dod i mewn i'r tŷ o'r ddwy ystafell haul.
Boeler modern sy'n nwyeiddio peledi coed, paneli solar thermol a stof goed yw'r prif ffynonellau gwres.
Mae dau bwynt gwefru ceir trydan wedi'u gosod ar blinthiau llechen. Ar hyn o bryd gall defnyddwyr wefru eu ceir yn rhad ac am ddim.
Hefyd mae lle i storio beiciau, sydd wedi'i wneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu, gyda mainc weithio i drin beiciau. Mae dau feic mynydd ar gael i'w llogi.
Mae Bryn Elltyd yn defnyddio gwasanaethau a chynnyrch mor lleol ag sy'n bosibl, gyda'r pwyslais ar ddefnyddio deunyddiau pwysig i’r ardal, fel llechi.
Mae'r cynnyrch ar gyfer y gegin wedi'u prynu'n lleol a rhai, fel wyau hwyaid, ffrwythau a llysiau, yn dod o ardd Bryn Elltyd.