Mwy o Newyddion
Statws Dinas Diwylliant o bosib yn werth miliynau
Byddai sicrhau statws Dinas Diwylliant y DU 2017 yn werth miliynau o bunnoedd i Fae Abertawe.
Mae mwy na 30 o gynadleddau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol pwysig yn cael eu cynnal eleni yn Derry-Londonderry, dinas diwylliant gyfredol y DU, gan groesawu 6,000 o gynadleddwyr a chynhyrchu gwerth oddeutu £4.5 miliwn i'r economi.
Mae 3,000 o swyddi hefyd yn cael eu creu yno, gan gynnwys 700 mewn ardaloedd difreintiedig. Mae nifer y bobl sydd wedi aros yng ngwestai'r ardal ym mis Mai 12% yn uwch na'r un mis y llynedd.
Disgwylir y bydd tua miliwn o bobl yn dod i ddigwyddiadau yn Derry-Londonderry yn 2013. Mae rhaglen Big Weekend BBC Radio One eisoes wedi cael ei chynnal yno gan ddenu sêr megis Bruno Mars a The Script.
Mae Bae Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer i olynu Derry-Londonderry yn 2017, gyda Dundee, Hull a Chaerlŷr.
Meddai'r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, "Rydym wedi gweld yr effaith y mae pêl-droed yr Uwch Gynghrair wedi'i chael ar Fae Abertawe a byddai sicrhau statws Dinas Diwylliant y DU 2017 yn ganlyniad gwych arall.
"Mae darllen am y manteision sydd eisoes wedi dod yn sgîl y statws hwnnw i Derry-Londonderry eisoes yn galonogol iawn. Maen nhw'n dangos bod y statws nid yn unig yn denu digwyddiadau ar raddfa fyd eang ac ar gyfer pob oed a diddordeb, ond hefyd gyfleoedd swyddi i bobl leol a hwb i fusnesau lleol.
"Dyma gyfle gwirioneddol i bawb yn Abertawe, Sir Gâr a Chastell-nedd Port Talbot gefnogi'r cais. Mae gan Fae Abertawe lawer i'w gynnig ac mae llawer yn ein cefnogi i ennill y statws hwn ar gyfer 2017. Mae'r gystadleuaeth yn gref ond rydym yn gwybod bod cam cyntaf ein cais wedi cael derbyniad calonogol a byddwn yn sicrhau bod y cam nesaf yn yr ymgyrch yn adeiladu ar hynny."
Ers 1 Chwefror, mae mwy na 350 o enghreifftiau o eitemau newyddion cadarnhaol am Derry-Londonderry wedi ymddangos yn y cyfryngau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gyrraedd cynulleidfa o fwy na 250,000 o bobl. Ymysg y papurau sydd wedi cynnwys erthyglau y mae'r New York Times a'r Wall Street Journal.
Cyrhaeddodd Derry-Londonderry rif pedwar ar restr The Lonely Planet o'r dinasoedd i ymweld â hwy yn ystod 2013.
Mae Cyngor Abertawe yn cyflwyno cais am statws Dinas Diwylliant y DU 2017 gyda chefnogaeth gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Gâr.
Caiff cais mwy cynhwysfawr ei gyflwyno nawr cyn cyhoeddi'r enillydd ar ddiwedd y flwyddyn.
Gweinyddir menter Dinas Diwylliant gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.