Mwy o Newyddion
Dewis Rhun ap Iorwerth yn ymgeisydd Plaid Cymru dros Ynys Môn
Dewiswyd Rhun ap Iorwerth yn ymgeisydd Plaid Cymru dros Ynys Môn wedi cyfarfod hystings llawn yn Llangefni nos Iau.
Croesawyd yr enwebiad gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, a ddywedodd y byddai Rhun ap Iorwerth yn gredyd i Ynys Môn, i Blaid Cymru ac i Gymru.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn ei theimlo’n anrhydedd cael ei ddewis, ac y byddai’n gweithio’n galed dros bobl Môn fel Aelod Cynulliad.
Meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC: "Rwyf wrth fy modd fod Rhun ap Iorwerth wedi ei ddewis yn ymgeisydd Plaid Cymru dros Ynys Môn. Roedd gennym ddewis cryf iawn o ymgeiswyr oedd yn awyddus i gael yr enwebiad, ac y maent oll yn gredyd i Blaid Cymru a'r ynys. Rwy’n siŵr y bydd dewis Rhun yn rhoi hwb enfawr i’r tîm ar Ynys Môn yn y gwaith sydd o’u blaenau.
"Gwn y bydd gwaith caled ac ymroddiad Rhun ap Iorwerth yn ei wneud yn gynrychiolydd gwych dros Ynys Môn, Plaid Cymru a Chymru.
"Bydd Rhun yn dilyn ôl troed Ieuan Wyn Jones, a fu’n AC ac yn AS rhagorol dros Ynys Môn ac a oedd yn wastad yn rhoi pobl yr ynys yn gyntaf."
Meddai ymgeisydd newydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Rwyf yn ei chyfrif yn anrhydedd cael fy newis gan aelodau Plaid Cymru yn Ynys Môn fel eu hymgeisydd yn yr isetholiad.
"Fe fyddaf yn dilyn ôl troed Ieuan Wyn Jones o ran rhoi pobl Ynys Môn yn gyntaf, a chynrychioli Plaid Cymru a Chymru hyd eithaf fy ngallu.
"Gefais fy magu yma ym Môn ac rwan dwi'n byw yma efo fy nheulu. Yr wyf yn credu, gyda’n gilydd, y byddwn yn ateb yr heriau sy’n wynebu’r ynys.
"Fy mhrif flaenoriaeth fydd gwella economi’r ynys, gweithio’n galed i greu swyddi sy’n talu’n dda, a chefnogi’r diwydiannau amaeth a thwristiaeth, yn ogystal â helpu busnesau bach."