Mwy o Newyddion
Bae Abertawe ar y rhestr fel ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2017
Mae Bae Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2017.
Bydd y rhanbarth bellach yn cystadlu yn erbyn Caerlŷr, Hull a Dundee i ennill y statws y mae pawb yn awyddus i'w gael ar ôl i'w chais gael ei gymeradwyo gan banel ymgynghorol annibynnol.
Mae Cyngor Abertawe yn cyflwyno cais am y statws gyda chefnogaeth gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Gâr.
Caiff cais mwy cynhwysfawr ei gyflwyno nawr cyn cyhoeddi'r enillydd ar ddiwedd y flwyddyn.
Meddai'r Cyng. David Phillips, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r cais yn adlewyrchu ein gweledigaeth i Fae Abertawe fod yn lleoliad llawn diwylliant drwy ganolbwyntio ar gryfderau'r ardal, gan gynnwys ein treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog, celfyddydau modern sy'n ffynnu, golygfeydd arobryn a thimau chwaraeon o'r radd flaenaf.
"Byddwn nawr yn gweithio mewn partneriaeth agos â'n cynghorau cyfagos, yn ogystal â sefydliadau celfyddydau a diwylliannol lleol, i gryfhau'r cais ymhellach i sicrhau bod gennym y cyfle gorau i ennill y teitl eleni.
"Byddai ennill y statws nodedig hwn yn gwella proffil Bae Abertawe ledled y DU ac yn arwain at fwy o swyddi a buddsoddiad."
Os bydd y cais ar y rhestr fer yn llwyddiannus, byddai'r rhaglen ar gyfer 2017 yn cynnwys g?yl ar gyfer cerddorion heb reolwyr, labordy hanes uwchdechnoleg ar safle Gwaith Copr yr Hafod, pasiant drama, caneuon, dawnsio a dylunio i blant. Cynigir hefyd i garfan rygbi Llewod Prydain ar gyfer taith 2017 i Seland Newydd gael ei chyhoeddi ym Mae Abertawe.
Meddai'r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, "Mae cyrraedd y rhestr fer yn dangos ein cryfder fel lleoliad diwylliannol - mae'n hwb mawr i'n hyder yn ein cymunedau a'n huchelgais. Gall yr ardal gyfan bellach gefnogi'r cais oherwydd mae cynifer o bethau gennyn i fod yn falch ohonynt.
"Byddai ennill y statws hwn yn golygu y byddai Bae Abertawe yn dod i fwy o amlygrwydd mewn cyfnod lle'r ydym eisoes yn derbyn llawer o sylw."
Mae cais Bae Abertawe wedi'i gymeradwyo gan sêr sy'n cynnwys Michael Sheen a Russell T Davies. Mae'r Elyrch a'r Gweilch hefyd wedi cymeradwyo'r cais.
Gweinyddir y fenter Dinas Diwylliant gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.