Mwy o Newyddion
Pobl ifainc yn cyflwyno Maniffesto Barddonol i Gymru
Fel rhan o brosiect arloesol newydd gan Llenyddiaeth Cymru mae dros 200 o bobl ifainc wedi creu eu maniffesto barddonol eu hunain ar gyfer Cymru.
Mae’r prosiect yn gyfle i ofyn cwestiynau, lleisio safbwyntiau a chreu gweledigaeth ar gyfer Cymru’r dyfodol - oll drwy gyfrwng ysgrifennu creadigol.
Mewn gweithdai gyda’r beirdd Eurig Salisbury, Aneirin Karadog a Martin Daws mae’r bobl ifainc wedi ysgrifennu a recordio ymateb barddonol i’w hardaloedd a’u cymunedau, gan archwilio themâu yn ymwneud â dinasyddiaeth, diwylliant, iaith a thirwedd.
Bu aelodau o Sgwad ‘Sgwennu Merthyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro a disgyblion Ysgol y Berwyn, Y Bala, yn cydweithio â Bardd Plant Cymru, Aneirin Karadog a chyn-Fardd Plant Cymru, Eurig Salisbury drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru, Martin Daws, yn cynnal gweithdai gyda phobl ifainc o Drebiwt, Ysgol Uwchradd Archbishop McGrath, Gofalwyr Ifainc Ystradgynlais, Gofalwyr Ifainc Y Trallwng, Ysgol Uwchradd Llanfyllin, Grŵp Ieuenctid Gaba yn Llanfyllin, Ysgol y Gorlan, Porthmadog ac Ysgolion Tregarth a Bodfeurig ym Methesda.
Ar brynhawn dydd Mercher 19 Mehefin cyflwynwyd y Maniffesto gan rai o'r bobl ifanc a fu ynghlwm â'r prosiect yn adeilad hanesyddol y Pierhead ym Mae Caerdydd. Yng nghwmni aelodau o'r cyhoedd, Aelodau Seneddol a gwahoddedigion eraill, cyflwynwyd Maniffesto cyntaf Cymru a chafwyd perfformiadau gan y bobl ifainc.
Meddai Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn: “Dim ond y cychwyn yw hyn. Bydd lleisiau unedig y beirdd ifainc yn trafod eu treftadaeth yn arwain at gydweithio pellach gyda cherddorion, gwneuthurwyr ffilm a llawer mwy o bobl ifainc. Mae un llais yn y Maniffesto yn dweud ‘Rwy’n caru ysbrydoliaeth… yn caru uchelgais’. Cefais fy ysbrydoli’n fawr wrth wrando ar y Maniffesto, ac rwy’n gobeithio y bydd pawb fydd yn ei glywed yn cael eu hysbrydoli hefyd.”
Meddai Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru, Martin Daws: “Mae creu cyfleoedd ar gyfer lleisiau’r genhedlaeth nesaf yn hollbwysig yn fy rôl fel bardd, ac rwyf wrth fy modd o fod wedi cael cydweithio â chymaint o bobl ifainc anhygoel. Mae’r gerdd ei hun yn cynrychioli amrywiaeth cyfoethog o leisiau, profiadau a safbwyntiau, yn cyfuno gweledigaethau personol iawn ar gyfer gorwel epig.”
Meddai Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru: “Cefais y fraint o gydweithio gyda dau grŵp o bobl ifanc, un ym Merthyr a'r llall yn Eisteddfod yr Urdd. Mae wedi bod yn gyfle gwych i roi tudalen lâni'r bobl ifanc i gael ei llenwi gyda'u dyheadau a’u gobeithion ar gyfer Cymru well. Roedd aelodau'r gweithdai i gyd yn deall pwysigrwydd y dasg o'u blaen ac yn dangos dawn meddwl a dawn i fynegi eu hunain yn rhagorol wrth osod y meddyliau mewn i gerddi.”
Os hoffech gymryd rhan ym mhrosiect nesaf Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru,
yn Saesneg neu’n Gymraeg, neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org
I glywed y Maniffesto, cliciwch ar y ddolen hon:
https://soundcloud.com/literature-wales/maniffesto-pobl-ifainc